Datganiad i'r wasg

Datganiad i’r Wasg gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad: Gweinidog y Gymanwlad yn ymweld â Chymru cyn Gemau’r Gymanwlad ac Uwchgynhadledd 2018

Mae’r Gweinidog yn Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y Gymanwlad yng Nghymru heddiw (13 Chwefror) i gwrdd ag athletwyr Cymru cyn Gemau’r Gymanwlad a’r Uwchgynhadledd sy’n cael eu cynnal eleni.

Bydd Gweinidog Gwladol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, yr Arglwydd (Tariq) Ahmad o Wimbledon, yn ymweld â Chaerdydd i gwrdd â phobl ifanc o’r elusen Plant yng Nghymru, gan gynnwys rhai sy’n cynrychioli Cymru yn Uwchgynhadledd y Gymanwlad, yn ogystal â phobl o grwpiau alltudion y Gymanwlad.

Bydd hefyd yn ymweld â chartref chwaraeon elitaidd yng Nghymru lle bydd yn mynd y tu ôl i’r llenni i weld sut y mae athletwyr Tîm Cymru yn ymarfer i sicrhau perfformiadau a fydd yn ennill medalau yn Gemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia ym mis Ebrill. Bydd y Gweinidog yn cael ei groesawu gan Brian Davies OBE, Cyfarwyddwr Perfformiad Elitaidd Chwaraeon Cymru, ar daith o amgylch y Ganolfan Chwaraeon Genedlaethol yng Ngerddi Sophia, lle bydd yn cwrdd â’r athletwyr, y staff gwyddorau chwaraeon a meddygol sy’n gobeithio sicrhau y bydd gan Dîm Cymru bresenoldeb amlwg ar y llwyfan medalau.

Bydd y DU yn cynnal Cyfarfod blynyddol Arweinyddion Llywodraethau’r Gymanwlad ym mis Ebrill gydag arweinyddion yn teithio o bob cwr o’r byd i gymryd rhan mewn wythnos gyfan o weithgareddau a fydd yn canolbwyntio ar thema’r Uwchgynhadledd ‘Tuag at Ddyfodol Cyffredin’.

Meddai’r Arglwydd Ahmad:

Mae’r Gymanwlad yn deulu unigryw o genhedloedd, Mae ei aelodau’n cynnwys dau biliwn a hanner o bobl. Bydd Cyfarfod Arweinyddion Llywodraethau’r Gymanwlad ym mis Ebrill yn canolbwyntio ar bobl ifanc wrth inni ymdrechu i gyflawni dyheadau’r biliwn a hanner o bobl yng ngwledydd y Gymanwlad sydd o dan 25 oed.

O Gaerdydd i Ganberra, o Fangor i Fangalore, os ydym am sicrhau bod y Gymanwlad yn parhau’n berthnasol, mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu dyfodol, ac mae hynny’n cynnwys pobl ifanc o Gymru.

Rwyf yn hynod obeithiol wrth feddwl am ddyfodol y Gymanwlad a’r rôl sydd gan Gymru i’w chwarae ynddo.

Bydd yr Arglwydd Ahmad hefyd yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones a’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Dafydd Elis-Thomas i drafod sut y gall Llywodraeth Cymru chwarae rôl allweddol yn y cynlluniau ar gyfer Uwchgynhadledd y Gymanwlad.

Cyhoeddwyd ar 13 February 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 February 2018 + show all updates
  1. Translation added

  2. First published.