Datganiad i'r wasg

Y DU yn dathlu'r bobl o Gymru sydd wedi'u gwobrwyo yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Ei Fawrhydi'r Brenin 2026

Mae dros 67 o bobl o Gymru sydd wedi cyfrannu i’w cymunedau a’u gwlad yn cael eu dathlu yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Ei Fawrhydi’r Brenin 2026. 

New Year Honours 2026

Heddiw, mae dros 67 o bobl o Gymru sydd wedi cyfrannu i’w cymunedau a’u gwlad yn cael eu dathlu yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Ei Fawrhydi’r Brenin 2026.  

Mae’r sawl sy’n derbyn anrhydeddau yng Nghymru yn cynnwys Ffion Lucy Mitchell-Langford, a dderbyniodd BEM am ei hymdrechion ymroddedig i gyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol yng Nghymru a Julie Denley, sy’n derbyn BEM yn 56 oed am ei hymroddiad i ddiwygio gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru. 

Mae cyfanswm o 1157 o bobl wedi cael eu gwobrwyo eleni am eu cyflawniadau eithriadol, gyda ffocws penodol ar y sawl sydd wedi cefnogi a hyrwyddo eu cymunedau. 

Mae’r derbynwyr eleni yn cynnwys gofalwyr maeth ymroddedig, modelau rôl ym maes chwaraeon menywod, gweithwyr iechyd ymroddedig, pencampwyr y celfyddydau, a chefnogwyr pobl ifanc.  

Mae pob cwr o’r DU wedi’u cynrychioli yn y Rhestr, o’r Ynysoedd Gorllewinol i Liskeard yng Nghernyw.  

Mae derbynwyr o Gymru yn cynrychioli 5.4% o gyfanswm y nifer o dderbynwyr anrhydeddau eleni.  

Dywedodd Keir Starmer, Prif Weinidog y DU: 

Mae Rhestr Anrhydeddau eleni yn dathlu’r gorau o Brydain - pobl sy’n rhoi lles cyffredinol eraill cyn lles eu hunain i gryfhau cymunedau a newid bywydau. 

Mae eu hymroddiad tawel yn adlewyrchu’r wlad weddus a thrugarog yr ydym yn falch o fod. Ar ran y genedl i gyd, diolch - a llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu cydnabod heddiw.” 

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

Llongyfarchiadau i bob un o’r derbynwyr haeddiannol iawn ledled Cymru sy’n cael eu cydnabod eleni. 

Maen nhw wedi derbyn canmoliaeth am y gwaith rhyfeddol maen nhw’n ei wneud, gan wella bywydau eraill a gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau, yn aml yn rhoi o’u hamser am ddim, codi arian i elusen neu’n cefnogi pobl fregus.  

Mae’r rhestr yn cwmpasu pob agwedd ar fywyd yng Nghymru o chwaraeon i iechyd a lles a cherddoriaeth a’r celfyddydau. Mae gwaith y bobl anhygoel hyn yn cael effaith anferthol ar nifer enfawr o fywydau. 

Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu hangerdd a’u hymroddiad ac am y rôl ysbrydoledig mae’n nhw’n eu chwarae.” 

Gall unrhyw un enwebu rhywun ar gyfer anrhydedd. Os ydych yn adnabod rhywun sydd wedi cyflawni pethau gwych sy’n werth eu cydnabod ewch i https://www.gov.uk/honours i ganfod mwy am sut gallwch eu henwebu. 

Derbynwyr nodedig ar draws Cymru:   

  • Mae Ffion Lucy Mitchell-Langford, 29 oed, yn derbyn BEM am wasanaethau i’r Amgylchedd Naturiol Morol ac i gymunedau yng Ngogledd Cymru. Mae hi’n adfocad ar gyfer cyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol yng Nghymru, ac mae uchafbwyntiau ei gyrfa yn cynnwys gwaith helaeth ym meysydd cadwraeth morol ac ymgysylltu cymunedol. Bu iddi sicrhau £240,000 ar gyfer prosiect dealltwriaeth forol cyntaf y DU sydd wedi’i arwain gan y gymuned, ac mi wnaeth ei “Rhaglen Cysylltu â’r Môr” wella perthnasau 1,250 o bobl gyda’r arfordir, gan gynyddu dealltwriaeth o’r môr yn sylweddol.  Mae ei gwaith arloesol wedi’i gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

  • Julie Denley, BEM, 56 oed, yn derbyn BEM am wasanaethau i’r maes Iechyd Meddwl. Mae wedi arwain ar ddulliau iechyd meddwl arloesol am dros 30 mlynedd, a bu iddi hyrwyddo dulliau a arweinir gan ddinasyddion a dylanwadu ar ail-ddylunio gwasanaethau yng Nghymru. Yn dilyn yr Adolygiad Sainsbury, bu iddi sefydlu un o’r Gwasanaethau Datrys Argyfyngau a Thriniaeth yn y Cartref cyntaf yng Nghymru. Bu iddi adfywio’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Difrifol, gan ennill Gwobr y Prif Swyddog Nyrsio, a bu iddi lansio Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol newydd. 

  • Ronald William Pearson, 78 oed, yn derbyn BEM am wasanaethau i griced. Mae wedi ymrwymo 63 o flynyddoedd i Glwb Criced Parc Gwersyllt, gan sefydlu’r clwb fel canolfan gymdeithasol i dros 3,000 o breswylwyr. Cafodd ei anrhydeddu’n ddiweddar gyda Gwobr Oes Anrhydeddus y Dirprwy Lywydd yng Ngwobrau cenedlaethol yr ECB - sef Gwobrau Criced 2024 - am ei ddegawdau o wasanaethu er lles y gymuned criced. 

  • Darren Shane Davies, 55 oed, yn derbyn BEM am wasanaethau i rygbi yn Nhorfaen. Gyda chyfraniad anhygoel i Talywain ers sefydlu a hyfforddi tîm rygbi dan 8 oed yn 1998, mae wedi hyfforddi’r un tîm o rygbi iau i rygbi uwch, gan sicrhau dyrchafiadau olynol trwy system haenau rygbi Cymru i Bencampwriaeth Undeb Rygbi Cymru yn 2024. Er ei fod yn gweithio llawn amser fel trydanwr, mae’n parhau i godi proffil y gymuned trwy godi arian a threfnu digwyddiadau elusennol. 

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Rhagfyr 2025