Datganiad i'r wasg

Llwyddiant prosiectau yng Nghymru yn rownd ddiweddaraf y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol

Bydd tafarn ac amgueddfa, y ddau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn derbyn cyfran o £440,000 mewn cyllid gan Lywodraeth y DU.

Levelling Up

  • Bydd £440,000 yn cael ei ddyfarnu i ddau brosiect yng Nghymru i roi bywyd newydd i dafarn gymunedol bentrefol ac adeiladu amgueddfa ac oriel gelf newydd
  • Mae tafarn y Sun Inn ar fin cael £292,000 i’w drawsnewid yn ganolbwynt cymunedol
  • Amgueddfa yn Sir Ddinbych i gael ei hadnewyddu gyda £146,580 o’r gronfa

Mae tafarn gymunedol yn un o’r prosiectau llwyddiannus yng Nghymru sydd ar fin cael miloedd o bunnoedd o gyllid gan Lywodraeth y DU yn dilyn cylch ceisiadau llwyddiannus.

Bydd Cymru yn cael cyfanswm o £440,000 fel rhan o Rownd 3 Ffenestr 2 y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Hyd yn hyn, mae Cymru wedi cael £4.2 miliwn ar gyfer 19 o brosiectau, gan gynnwys tafarn a fynychwyd gan Dylan Thomas. Enillodd y dafarn ym mhentref Ystrad Aeron yng Ngheredigion grant o £300,000 ym mis Medi eleni.

Bydd tafarn gymunedol y Sun Inn, gyda chefnogaeth darparwr cymorth datblygu’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, hefyd yn cael £292,000 i brynu ac adnewyddu’r Sun Inn yn Eryrys, ger yr Wyddgrug i greu canolbwynt cymdeithasol ar gyfer y pentref sy’n ategu at Ganolfan Gymunedol Dewi Sant gerllaw.

Yn Sir Ddinbych, bydd gwaith adnewyddu hanfodol i Amgueddfa Llangollen yn sicrhau ei bod ar gael i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau. Ar ôl ei gwblhau, bydd yr adeilad yn ailagor fel amgueddfa ac oriel gelf gan gynnig amrywiaeth o raglenni addysgol ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol.

Dywedodd Jacob Young, Gweinidog Ffyniant Bro Llywodraeth y DU:

Rydyn ni wedi cael cynigion gwych o bob cwr o’r DU ac rydw i wrth fy modd ein bod ni’n cefnogi 72 o brosiectau ychwanegol gyda bron i £25 miliwn o gyllid ffyniant bro yn mynd yn uniongyrchol i grwpiau cymunedol.

Rydym yn gwybod bod gan y cyllid hwn y pŵer i sicrhau newid ystyrlon i bobl leol; diogelu mannau lleol, cadw adeiladau hanesyddol, a thrawsnewid cymunedau.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Llongyfarchiadau i’r Sun Inn, ac Amgueddfa Llangollen sydd ill dau yn cael cyllid gan Lywodraeth y DU i’w diogelu ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i gymunedau roi bywyd newydd i’r lleoedd sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r prosiectau hyn yn golygu y bydd gan bobl leol rywle i gymdeithasu a chyfleusterau sy’n dod â nhw at ei gilydd.

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn gronfa £150 miliwn dros bedair blynedd i gefnogi grwpiau cymunedol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gymryd perchnogaeth o asedau sydd mewn perygl o gael eu colli gan y gymuned.

Bydd y ffenestr hon yn gweld £24.7 miliwn yn cael ei ddyfarnu i 72 o brosiectau ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn dod â chyfanswm y cyllid i £71.4 miliwn ar gyfer 257 o brosiectau.

Cyhoeddwyd ar 22 December 2023