Stori newyddion

Sêl bendith i ddwy orsaf bŵer nwy newydd

Mae dwy orsaf bŵer nwy newydd wedi cael caniatâd cynllunio wrth i’r Llywodraeth barhau i ddenu buddsoddiad mewn seilwaith ynni newydd.

Mae’r Gweinidog dros Ynni a Newid Hinsawdd yr Arglwydd Bourne wedi rhoi caniatâd i adeiladu dwy orsaf ynni nwy i Progress Power Ltd yn Eye, Suffolk, ac i Hirwaun Power Limited ger Aberdâr yn Ne Cymru.

Bydd y ddau safle’n gweithredu fel gorsafoedd ‘oriau brig’; gan gynhyrchu trydan pan fydd cynnydd sydyn yn y galw, neu os bydd gostyngiad sydyn yn y trydan sy’n cael ei gynhyrchu gan orsafoedd eraill.

Bydd y gwaith o adeiladu’r gorsafoedd yn creu hyd at 400 o swyddi, gydag oddeutu 30 o swyddi parhaol pan fyddant yn weithredol.

Meddai’r Gweinidog Ynni’r Arglwydd Bourne:

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi wrth i ni symud y DU tuag at ddyfodol lle’r ydym yn defnyddio ynni glanach. Bydd y gorsafoedd hyn yn creu swyddi ac yn helpu i gadw goleuadau’r wlad ynghyn.

Nwy yw’r tanwydd ffosil glanaf sydd gennym ni; a gall gynhyrchu trydan drwy gynhyrchu dim ond hanner yr allyriadau sy’n cael eu cynhyrchu gan lo.

Os bydd y cwmnïau’n cymryd y penderfyniadau buddsoddi terfynol ar adeiladu, gall y ddwy orsaf gynhyrchu hyd at 299 megawat o drydan.

Nodiadau i olygyddion

Cyhoeddwyd ar 23 July 2015