Stori newyddion

TVR i greu 150 o swyddi newydd ar ôl buddsoddi mewn ffatri newydd yng Nglynebwy

Alun Cairns: Buddsoddiad TVR yn dangos bod Cymru ar agor i fusnes

Mae cwmni ceir cyflym TVR wedi cyhoeddi heddiw ei fod am leoli ei ffatri newydd yng Nglynebwy, gan greu 150 o swyddi.

Cadarnhaodd Aston Martin fis diwethaf ei fod yn creu 750 o swyddi uniongyrchol newydd yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg - gyda’r cyntaf o’i gerbydau ‘crossfire’ DBX moethus yn cael ei ryddhau yn 2020.

Bydd gwaith cynhyrchu TVR yn dechrau yn 2017 ac mae cynlluniau ar y gweill i ddod â phedwar model newydd i’r farchnad dros y 10 mlynedd nesaf.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cyhoeddiad heddiw yn arwydd arall o ansawdd diwydiant ceir Prydain, sydd wedi bod yn creu swyddi, cyflogi prentisiaid a chyfrannu at adeiladu economi gryfach. Mae hyn yn fantais bendant o gael economi sy’n sefydlog ac yn tyfu.

Yn dilyn buddsoddiad diweddar Aston Martin, mae sector gweithgynhyrchu cerbydau Cymru yn amlwg yn mynd o nerth i nerth.

Mae buddsoddiad TVR yng Nglynebwy yn amlygu’r hyder sydd gan y cwmni yn sylfaen sgiliau ac amgylchedd busnes Cymru, ac mae’n pwysleisio’r ffaith bod Cymru ar agor i fusnes.

Cyhoeddwyd ar 22 March 2016