Datganiad i'r wasg

Twrci a threth

Cyflwynwyd dros 10,000 o Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar ddydd Nadolig a gŵyl San Steffan.

Self Assessment promotional image - "Don't let your tax return peck away at you - do it by 31st January" / "Peidiwch â gadael i'ch Ffurflen Dreth eich pigo"

Self Assessment advertising image: ‘tax ducks’ wearing Santa hats / Llun hysbysebu Hunanasesiad: ‘hwyaid treth’ yn gwisgo hetiau Siôn Corn.

Mae’n bosibl nad llenwi’ch Ffurflen Dreth sydd ar frig eich rhestr ar ddydd Nadolig, ond dyna wnaeth 2,616 o drethdalwyr ar 25 Rhagfyr.

I rai trethdalwyr, mae llenwi Ffurflen Dreth ar ddydd Nadolig yr un mor draddodiadol â threulio amser gyda’r teulu a ffrindiau, neu aros i sêls gŵyl San Steffan ddechrau. Rhwng 13:00 a 14:00 oedd yr amser prysuraf, gyda dros 230 o gwsmeriaid yn cyflwyno’u Ffurflenni Treth.

Dywedodd Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

Eleni, dewisodd mwy na 2,600 o drethdalwyr gyflwyno’u Ffurflenni Treth ddydd Nadolig.

Gallwch ei llenwi tra bo’r twrci yn y ffwrn, ar ôl i’r plant fynd i’r gwely, neu ar ôl araith y Frenhines – mae ein gwasanaeth ar-lein ar gael i chi bryd bynnag y dewiswch ei ddefnyddio.

Mae arweiniad ar Hunanasesiad ar gael ar-lein.

Disgwylir i fwy nag 11 miliwn o drethdalwyr lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2017/18 erbyn 31 Ionawr 2019.

Dyma faint o Ffurflenni Treth a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod hwn:

25 Rhagfyr (cyfanswm o 2,616):

  • hanner nos - 08.00: 204
  • 08.01 – 16.00: 1,372
  • 16.01 – hanner nos: 1,040

26 Rhagfyr (cyfanswm o 8,465):

  • hanner nos – 08.00: 348
  • 08.01 – 16.00: 4,492
  • 16.01 – hanner nos: 3,625

I’r cwsmeriaid hynny sydd heb ddechrau llenwi eu Hunanasesiad ar gyfer 2017/18 eto, mae ffilmiau a gweminarau sy’n mynd â chi drwy bob cam o’r broses, gydag arweiniad pwrpasol ar gyfer amgylchiadau amrywiol unigolion. Mae help i’w gael hefyd ar wefan GOV.UK neu gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900 ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Os llenwodd cwsmeriaid Ffurflen Dreth Hunanasesiad y llynedd ond nid oedd ganddynt dreth i’w thalu, mae’n rhaid iddynt lenwi Ffurflen Dreth 2017/18 o hyd, oni bai bod CThEM wedi ysgrifennu atynt i ddweud nad oes angen gwneud hynny.

Rhagor o wybodaeth

Y ffigurau cyflwyno:

  • cyflwynodd 2,616 o drethdalwyr Ffurflen Dreth ar 25 Rhagfyr 2018
  • yr awr brysuraf ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar 25 Rhagfyr oedd rhwng 13:00 a 14:00 (cyflwynwyd 231 o Ffurflenni Treth)
  • cyflwynodd 8,465 o drethdalwyr Ffurflen Dreth ar 26 Rhagfyr 2018
  • yr awr brysuraf ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar 26 Rhagfyr oedd rhwng 13:00 a 14:00 (cyflwynwyd 723 o Ffurflenni Treth)

Mae treth yn cael ei didynnu’n awtomatig o’r rhan fwyaf o gyflogau, pensiynau neu gynilion trethdalwyr y DU. Ond, mae’n rhaid i Ffurflen Dreth Hunanasesiad gael ei llenwi bob blwyddyn gan bobl neu fusnesau sydd ddim yn cael treth wedi’i didynnu’n awtomatig, neu sydd o bosibl wedi ennill incwm ychwanegol heb ei drethu.

Cyhoeddwyd ar 27 December 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 December 2018 + show all updates
  1. Added Welsh language translation.

  2. First published.