Miloedd o aelwydydd ledled Cymru i dderbyn Taliad Costau Byw gwerth £300 o heddiw ymlaen
Bydd y rhai sy’n gymwys yn cael y taliad rhwng dydd Mawrth 31 Hydref a dydd Sul 19 Tachwedd.

Millions to receive £300 Cost of Living Payment between 31 October and 19 November
- Bydd 422,000 o aelwydydd ledled Cymru yn cael taliad Costau Byw gwerth £300 gan lywodraeth y DU o heddiw ymlaen.
- Bydd y rhai sy’n gymwys yn cael y taliad rhwng dydd Mawrth 31 Hydref a dydd Sul 19 Tachwedd.
- Dyma’r ail o dri thaliad Costau Byw sy’n dod i gyfanswm o £900 yn 2023/24 – er y bydd rhai pobl yn cael hyd at £1,350.
Bydd cannoedd o filoedd o aelwydydd ledled Cymru yn cael taliad Costau Byw o £300 gan y Llywodraeth, gyda thaliadau’n cael eu cyflwyno o heddiw ymlaen. Mae hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed gyda chostau byw.
Dyma’r ail o hyd at dri thaliad ar gyfer y rheini sy’n gymwys i gael budd-daliadau prawf modd, sy’n gyfanswm o hyd at £900 yn ystod 2023/24. Nid oes angen i’r rheini sydd â hawl i’r taliad wneud cais amdano na gwneud unrhyw beth i’w gael. Bydd y taliadau a wneir yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf, sy’n golygu na fydd pawb sydd â hawl i gael taliad yn ei gael heddiw.
Dros yr haf, gwnaethom ddarparu taliad gwerth £150 i bobl anabl gymwys. Bydd aelwydydd â phensiynwyr hefyd yn cael £300, a fydd yn daliad ychwanegol i’r rheini sy’n gymwys am y Taliad Tanwydd Gaeaf ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Bydd taliad costau byw pellach yn cael ei wneud i aelwydydd cymwys erbyn Gwanwyn 2024 – sy’n golygu y bydd cymorth i rai yn fwy na £1,350.
Dywedodd Mel Stride, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau:
Mynd i’r afael â chwyddiant yw’r ffordd orau o roi hwb i incwm pobl, ond wrth i ni weithio i’w haneru, rydyn ni’n diogelu’r aelwydydd mwyaf agored i niwed rhag prisiau uchel gyda’r taliad Costau Byw diweddaraf hwn.
Mae Hyfforddwyr Gwaith wedi’u lleoli mewn Canolfannau Gwaith ledled Cymru ac maent wrth law i helpu pobl i ddod o hyd i waith neu wella eu sgiliau. Rwy’n annog unrhyw un sydd eisiau cryfhau eu sefyllfa ariannol a phrofi manteision gwaith i gysylltu â’u Canolfan Waith leol i weld pa gymorth sydd ar gael.
Dywedodd Jeremy Hunt, Canghellor y Trysorlys:
Mae’n newyddion da bod chwyddiant yn gostwng a bod cyflogau’n cynyddu, ond mae prisiau’n dal yn rhy uchel. Ein cynllun i haneru chwyddiant eleni yw’r peth gorau y gallwn ei wneud i helpu pobl, gyda’r taliad hwn o £300 yn hwb amserol cyn y Nadolig.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:
Rydyn ni’n gwybod bod costau byw yn parhau i effeithio ar bobl, dyna pam mae Llywodraeth y DU yn cefnogi dros 220,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru gyda’r taliad hwn o £300, fel rhan o becyn cymorth ehangach.
Ar yr un pryd, rydyn ni’n gweithio’n galed i leihau chwyddiant, a fydd yn helpu pawb yng Nghymru a ledled y DU gyda’u sefyllfa ariannol.
Mae hyn yn adeiladu ar y cymorth costau byw sylweddol sydd eisoes wedi’i ddarparu i aelwydydd cymwys drwy gydol 2022 – sydd bellach yn werth £3,300 ar gyfartaledd fesul aelwyd dros y flwyddyn hon a’r flwyddyn diwethaf. Rydyn ni hefyd wedi mynd cam ymhellach drwy:
- Cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, sy’n golygu y bydd dros 10 miliwn o deuluoedd oedran gweithio yn gweld cynnydd o tua £600 ar gyfartaledd.
- Cynnal y ‘Clo Triphlyg’ yn gynharach eleni i roi’r cynnydd mwyaf erioed mewn arian parod i Bensiwn y Wladwriaeth tua 12 miliwn o bensiynwyr, sy’n werth £870.
- Ymestyn y Gronfa Gymorth i Aelwydydd am flwyddyn arall yn Lloegr i helpu teuluoedd gyda chostau hanfodol drwy £1 biliwn o gyllid ychwanegol.
- Cynyddu’r Cyflog Byw Cenedlaethol gyda’r swm arian parod mwyaf erioed ar gyfer 2 filiwn o weithwyr – sy’n werth dros £1,600 at enillion blynyddol gweithiwr amser llawn – ac rydyn ni wedi ymrwymo i’w gynyddu i dros £11 yr awr o fis Ebrill 2024 ymlaen.
- Lleihau’r dreth tanwydd 5 ceiniog a rhewi’r cynnydd, gwerth £100 i’r gyrrwr cyfartalog eleni.
- Talu am 85% o gostau gofal plant aelwydydd sy’n gweithio ac sydd ar Gredyd Cynhwysol, sydd i fyny o 70% dan y system etifeddol. Mae hyn werth dros £19,500 y flwyddyn ar hyn o bryd ar gyfer teuluoedd â dau blentyn.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon taliadau’n awtomatig ac yn uniongyrchol i gyfrifon y derbynwyr, gan ddyfynnu eu rhif Yswiriant Gwladol ac yna ‘DWP COL’. Bydd cwsmeriaid credyd treth yn unig yn cael y taliad gan Gyllid a Thollau EF rhwng 10 a 19 Tachwedd 2023 gyda’r cyfeirnod ‘HMRC COLS’.
I fod yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae angen i chi fod wedi cael hawl i fudd-dal cymwys rhwng 18 Awst 2023 a 17 Medi 2023, neu daliad ar gyfer cyfnod asesu, a ddaeth i ben rhwng y dyddiadau hyn.
Dyma’r budd-daliadau cymwys:
- Credyd Cynhwysol;
- Credyd Pensiwn;
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm;
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm;
- Cymhorthdal Incwm;
- Credyd Treth Gwaith;
- Credyd Treth Plant.
Er bod taliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig, rhaid i bobl fod yn cael un o’r budd-daliadau hyn yn ystod y cyfnod penodedig er mwyn bod yn gymwys. Dylai’r rheini sy’n dymuno gwirio eu hawl i fudd-daliadau ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau ar Gov.uk i gael gwell syniad o’r hyn y gallent ei gael.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau i annog pensiynwyr incwm isel nad ydynt eisoes yn cael Credyd Pensiwn i wirio eu cymhwysedd, oherwydd – diolch i reolau ôl-ddyddio Credyd Pensiwn – gallent fod yn gymwys o hyd ar gyfer yr ail Daliad Costau Byw yn ogystal â’r trydydd taliad sy’n ddyledus erbyn Gwanwyn 2024.
Mae’r rheini sydd mewn angen hefyd yn cael eu hannog i gysylltu â’u cyngor lleol i weld a oes unrhyw gymorth ychwanegol ar gael yn eu hardal leol, fel drwy Gronfa Gymorth i Aelwydydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Lloegr, sy’n werth dros £2 biliwn yn ystod ei hoes.