Strategaeth Tlodi Plant hanesyddol Llywodraeth y DU i helpu miloedd o blant mewn tlodi ledled Cymru
Bydd miloedd o blant sy'n byw mewn tlodi ledled Cymru yn cael help wrth i Lywodraeth y DU lansio ei Strategaeth Tlodi Plant,
Welsh Secretary Jo Stevens at the Ely and Caerau children’s centre in South Wales.
- Strategaeth newydd i helpu 550,000 o blant y DU allan o dlodi erbyn 2030 – gan sicrhau’r gostyngiad disgwyliedig mwyaf mewn tlodi plant ers dechrau cadw cofnodion
- Mesurau wedi’u targedu at deuluoedd sy’n gweithio i atal plant rhag cael eu magu mewn llety gwely a brecwast, ehangu gofal plant i deuluoedd ar Gredyd Cynhwysol ac arbed hyd at £500 i rieni ar fformiwla babanod
- Teuluoedd yng Nghymru sy’n cael trafferth gyda chostau byw i elwa o gymorth ehangach a gyhoeddwyd yn y gyllideb, gan gynnwys £150 oddi ar filiau ynni, cynyddu’r cyflog byw £900 y flwyddyn a chael gwared ar y terfyn dau blentyn
- Rhan o gynllun Llywodraeth y DU i ddarparu mwy o sicrwydd, cyfle a pharch i bob teulu ledled y DU
Bydd miloedd o blant sy’n byw mewn tlodi ledled Cymru yn cael help wrth i Lywodraeth y DU lansio ei Strategaeth Tlodi Plant heddiw (dydd Gwener 5 Rhagfyr).
Bydd y Prif Weinidog, Keir Starmer, yn lansio’r strategaeth mewn canolfan blant yn Ne Cymru ynghyd â Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, lle byddant yn cwrdd â theuluoedd a phlant a fydd yn elwa o’r ymyriadau sydd yn y strategaeth.
Mae 200,000 o blant mewn tlodi yng Nghymru ac mae’r Strategaeth Tlodi Plant yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi drwy leihau costau hanfodol, a rhoi hwb i incwm teuluoedd.
Bydd dileu’r terfyn dau blentyn yn y Credyd Cynhwysol o fudd i 69,000 o blant yng Nghymru. Bydd mesurau eraill a gyhoeddwyd i fynd i’r afael â thlodi plant yn golygu y bydd 320,000 o deuluoedd yng Nghymru yn elwa o’r cynnydd termau real parhaus cyntaf yn y Lwfans Safonol Credyd Cynhwysol. Hefyd, bydd £150 oddi ar filiau ynni i deuluoedd a bydd hyd at 160,000 o bobl yng Nghymru yn elwa o’r cynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn cefnogi teuluoedd gyda chostau hanfodion drwy helpu teuluoedd i brynu fformiwla babanod sy’n fwy fforddiadwy. Mae cost rhai brandiau fformiwla babanod wedi codi 25% mewn dwy flynedd, gan roi pwysau ar deuluoedd sy’n methu bwydo ar y fron neu sy’n dewis peidio â gwneud hynny. Bydd y llywodraeth yn gosod rheolau clir i fanwerthwyr ganiatáu i deuluoedd ddefnyddio pwyntiau teyrngarwch, talebau a chardiau rhodd i brynu fformiwla - gan arbed hyd at £540 i rieni ym mlwyddyn gyntaf babi a chael gwared ar rwystrau diangen i deuluoedd incwm isel.
Bydd y mesurau sy’n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU yn helpu 550,000 o blant y DU allan o incwm cymharol isel erbyn diwedd y Senedd hon, gyda 7.1 miliwn o blant yn gweld incwm aelwydydd yn codi, gan gynnwys 1.4 miliwn sydd mewn tlodi materol dwfn – y gostyngiad disgwyliedig mwyaf mewn tlodi plant yn y DU gan unrhyw Lywodraeth mewn un Senedd.
Yng Nghymru, mae llawer o’r mesurau i liniaru tlodi plant wedi’u datganoli. Dyna pam y cyhoeddodd Llywodraeth y DU £505 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn y Gyllideb - ar ben y setliad £22.4 biliwn uchaf erioed a gyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn yn yr Adolygiad o Wariant. Cafodd Llywodraeth Cymru hefyd bwerau gwario ychwanegol o £425 miliwn yn y Gyllideb a oedd yn caniatáu iddi fuddsoddi ymhellach mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Dywedodd Keir Starmer, y Prif Weinidog:
Mae pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau posibl mewn bywyd, heb i amgylchiadau ei enedigaeth bennu ei ddyfodol. Ac eto, mae gormod o blant yn tyfu i fyny mewn tlodi, yn cael eu dal yn ôl rhag mynd ymlaen mewn bywyd, ac mae gormod o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd heb yr hanfodion: cartref diogel, prydau cynnes, a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gael dau ben llinyn ynghyd.
Wna i ddim yn sefyll o’r neilltu a gwylio hynny’n digwydd, oherwydd mae’r gost o wneud dim byd yn rhy uchel i blant, i deuluoedd, ac i Brydain.
Mae hon yn genhadaeth foesol i mi. Mae’n ymwneud â thegwch, cyfle a datgloi potensial. Dydy ein strategaeth ddim yn ymwneud â gwrthdroi methiannau’r gorffennol yn unig; mae’n gosod llwybr newydd ar gyfer adnewyddu cenedlaethol, gyda chyfleoedd bywyd plant yn ganolog iddi.”
Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru:
Wna i fyth roi’r gorau i frwydro i roi terfyn ar dlodi plant ac i roi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. Mae polisïau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl sydd fwyaf angen ein help; o ehangu gofal plant am ddim Dechrau’n Deg ledled Cymru, rhoi £200 tuag at gostau gwisg ysgol, sicrhau bod pob disgybl ysgol gynradd yn cael pryd maethlon am ddim yn yr ysgol bob dydd, i helpu bron i 55,000 o bobl ifanc i gael addysg, hyfforddiant neu waith.
Er bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob adnodd sydd ar gael i ni yng Nghymru, mae’n hanfodol bod ein dwy lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau newid gwirioneddol a pharhaol. Dyna pam mae ein dwy Lywodraeth yn cydweithio i wneud popeth o fewn ein gallu i greu cyfleoedd i bob cymuned.”
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Nid yn unig mae mynd i’r afael â thlodi plant y peth iawn i’w wneud, mae hefyd yn fuddsoddiad yn nyfodol Cymru.
Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng tlodi plant a chanlyniadau addysgol gwael a diweithdra yn y dyfodol – allwn ni ddim fforddio gwastraffu potensial cenhedlaeth.
Mae’r llywodraeth hon eisoes wedi cyhoeddi mesurau a fydd yn helpu miloedd o blant ledled Cymru allan o dlodi a, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, bydd ein strategaeth newydd yn sicrhau bod hyd yn oed mwy yn cael y cyfle i lwyddo.
Yn fuan ar ôl Etholiad Cyffredinol 2025, sefydlodd y Prif Weinidog y Tasglu Tlodi Plant i ddod â’r llywodraeth ac arbenigwyr at ei gilydd i archwilio sut gallai’r llywodraeth ddefnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael iddi i leihau tlodi plant. Y strategaeth hon yw’r cam cyntaf ar ein taith tuag at roi terfyn ar dlodi plant ac mae’n cyflawni’r ymrwymiad i leihau tlodi plant yn y senedd hon.
Daw hyn wrth i lefelau tlodi plant yn y DU gyrraedd lefel hanesyddol o uchel. Heddiw, mae 4.5 miliwn o blant (200,000 yng Nghymru) —tua 31%—yn byw mewn tlodi cymharol ar ôl costau tai - 900,000 yn fwy ers 2010/11. Mae tua 2.6 miliwn o blant (100,000 yng Nghymru) yn tyfu i fyny mewn cartrefi heb ddigon o fwyd, a’r llynedd roedd 1.1 miliwn (llai na 50,000 yng Nghymru) yn dibynnu ar fanciau bwyd.
Mae plant sy’n cael eu magu mewn tlodi bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl, yn llai tebygol o gael canlyniadau TGAU da neu wneud yn dda yn yr ysgol, yn fwy tebygol o fod ag iechyd gwaeth ac yn mynd ymlaen i ennill llai na’u cyfoedion. Bydd gweithredu nawr yn costio llawer llai na chanlyniadau hirdymor tlodi. Nid yn unig mae mynd i’r afael â thlodi plant yn rheidrwydd moesol - mae hefyd yn fuddsoddiad yn nyfodol Prydain.
Dyna pam mae’r llywodraeth yn gwrthdroi’r terfyn dau blentyn yn y Credyd Cynhwysol - arbrawf polisi aflwyddiannus a oedd yn cosbi plant ac a fu’n un o’r sbardunau caledi mwyaf ers ei gyflwyno yn 2017.
Mae tua 300,000 o blant mewn tlodi yn uniongyrchol oherwydd y polisi hwn, sy’n cyfateb i 100 o blant yn cael eu gwthio i galedi bob dydd. Heb ymyrraeth, byddai 150,000 yn fwy wedi mynd i dlodi erbyn 2030. Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd a fydd yn elwa o gael gwared ar y terfyn mewn gwaith.
Cael gwared ar y terfyn dau blentyn yw’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o leihau cyfraddau tlodi plant - gan helpu 450,000 o blant allan o dlodi ym mlwyddyn olaf y Senedd hon, gan gynyddu i 550,000 ochr yn ochr â mesurau eraill fel ehangu prydau ysgol am ddim, helpu gyda biliau ynni a chynnig gofal plant y llywodraeth.