Datganiad i'r wasg

Dros 2,800 o fusnesau newydd wedi’u sefydlu gan entrepreneuriaid di-waith yng Nghymru

Mae dros 2,800 o fusnesau newydd wedi’u sefydlu ledled Cymru diolch i gynllun gan lywodraeth y DU sy’n helpu pobl ar fudd-daliadau i redeg eu busnes eu hunain, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw (25 Medi).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Fel rhan o gynllun economaidd tymor hir y llywodraeth i greu swyddi drwy gefnogi busnesau a mentrau bychain, mae’r Lwfans Menter Newydd (NEA) wedi helpu ceiswyr gwaith o bob oed, rhieni unigol a phobl ar fudd-daliadau salwch i wireddu eu breuddwyd o fod yn entrepreneuriaid ac i sefydlu busnesau cynaliadwy.

Mae’r cynllun Lwfans Menter Newydd yn gyfrifol am ystod eang o fusnesau newydd cyffrous ledled y DU, gan gynnwys boutique gemwaith sydd wedi cael sylw yng nghylchgrawn Vogue, cwmni cardiau cyfarch sy’n darparu ar gyfer gwyliau crefyddol, priodasau a phen blwyddi a busnes adnewyddu carwselau sydd wedi cyflenwi ceffylau i gyngherddau Beyoncé a siopau Oasis.

Meddai’r Gweinidog Cyflogaeth, Esther McVey:

Busnesau bach yw asgwrn cefn economi’r DU a hwy sy’n creu cyfran sylweddol o’r swyddi newydd – a diolch i’w gwaith caled hwy, eu creadigrwydd a’u hysbryd mentrus mae’r economi erbyn hyn yn cryfhau ar ôl un o’r dirwasgiadau mwyaf mewn cof.

Fel rhan o gynllun economaidd tymor hir y Llywodraeth rydym yn llwyddo i symud pobl oddi ar fudd-daliadau , ac yn eu helpu i wireddu eu breuddwyd o redeg eu busnes eu hunain. Mae degau o filoedd o fusnesau newydd ac arloesol wedi’u sefydlu erbyn hyn, sy’n helpu i wneud i nwyddau ac i ddarparu’r gwasanaethau sy’n hybu adferiad yr economi. Efallai mai hwy fydd cyflogwyr y dyfodol rhyw ddydd, gan helpu i symud mwy fyth o bobl oddi ar fudd-daliadau ac i waith.

Dywed entrepreneuriaid llwyddiannus wrthym fod cyngor priodol ar yr adeg briodol yr un mor bwysig â chyllid i ddechrau busnes, a dyna pam y mae’r mentoriaid busnes yn rhoi o’u hamser gwerthfawr i rannu eu sgiliau a’u profiad, sydd mor hanfodol i lwyddiant y cynllun. Hoffwn annog mwy fyth o bobl fusnes i helpu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid brwd i wireddu eu breuddwydion.

Mae ffigurau heddiw yn dangos bod y cynllun wedi helpu mwy na 50,000 o fusnesau newydd o bob cwr o’r wlad ac mae wedi helpu pobl o bob oed, gyda 12,360 o fusnesau wedi’u sefydlu gan bobl 50 oed a hŷn, ac mae 3,920 o fusnesau wedi’u sefydlu gan bobl ifanc.

Mae’r Lwfans Menter Newydd ar gael i bobl dros 18 oed sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, rhieni unigol ar Gymhorthdal Incwm, neu bobl ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn y grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith.

Mae pobl ar y cynllun yn cael cymorth a chyngor arbenigol gan fentor busnes a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu syniad ac i ysgrifennu cynllun busnes. Os bydd eu cynllun busnes yn cael ei gymeradwyo, byddant yn gymwys i gael cymorth ariannol sy’n daladwy drwy lwfans wythnosol dros gyfnod o 26 wythnos hyd at gyfanswm o £1,274. Gall y sawl sydd ar y cynllun hefyd gael benthyciad drwy’r cynllun benthyciadau cychwyn busnes BIS.

Mae mentoriaid hefyd yn parhau i gynnig cymorth parhaus i’r darpar entrepreneuriaid drwy gydol eu misoedd cyntaf o fasnachu.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:

Busnesau bach sy’n gyrru economi Cymru. Gwyddom mai hwy yw’r rhai sy’n creu swyddi ac yn hybu twf ledled Cymru ar hyn o bryd.

Nid oes dim sy’n ysbrydoli mwy na gweld rhywun a arferai fod yn ddi-waith yn mynd ymlaen i redeg eu busnes eu hunain. Felly, rwyf wrth fy modd bod 2,810 o fusnesau newydd wedi cael eu sefydlu yng Nghymru diolch i’r Lwfans Menter Newydd.

Mae hwn yn gynllun gwych sy’n cyflawni canlyniadau gwirioneddol – darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt i sianelu eu hysbryd entrepreneuraidd i sefydlu a rhedeg eu busnes eu hunain.

Meddai Levi Roots, llysgennad y NEA a Sylfaenydd Reggae Reggae Sauce ac sy’n parhau i gefnogi’r cynllun:

Gall sefydlu eich busnes eich hun fod yn her ond nid oes dim un swydd arall sy’n rhoi cymaint o foddhad. Cael gweithio fy oriau fy hun, heb neb arall yn bennaeth arnaf a gwneud fy arian fy hun oedd rhai o’r rhesymau pam y dechreuais weithio i mi fy hun. Ond, fel dyn busnes, mi wn pa mor anodd y gall pethau fod pan ydych yn dechrau arni.

Dyna pan rwyf mor falch o weld yr holl gymorth sydd ar gael i’r darpar entrepreneuriaid hyn. Byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn gweld y Cynghorydd yn eich Canolfan Byd Gwaith leol; gallant hwy eich arwain drwy’r broses o gael y cymorth ariannol sydd ar gael drwy’r Lwfans Menter Newydd ac egluro manteision mentora arbenigol.

Cyhoeddwyd ar 25 September 2014