Datganiad i'r wasg

Ystyriwch y byd ac allforio - neges Ysgrifennydd Cymru i weithgynhyrchwyr yng Nghymru

Alun Cairns yn siarad yn Nigwyddiad Gweithgynhyrchu Cymru Barclays

Rhaid i weithgynhyrchwyr yng Nghymru ystyried y byd a manteisio ar y cyfleoedd sy’n cael eu creu gan farchnadoedd tramor. Dyna fydd neges Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, pan fydd yn annerch cynrychiolwyr rhai o’r prif gwmnïau gweithgynhyrchu yn ne Cymru heddiw (Dydd Llun 9 Hydref).

Wrth siarad yn nigwyddiad Gweithgynhyrchu Cymru Barclays yn SPTS Technologies yng Nghasnewydd, bydd Mr Cairns yn dweud ‘bod y wybodaeth a’r sgiliau o’r radd flaenaf sydd gennym yma yng Nghymru yn destun cenfigen ar draws y byd”. Bydd hefyd yn galw ar weithgynhyrchwyr o bob maint yng Nghymru i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU i ganfod cyfleoedd i werthu eu cynnyrch ym marchnadoedd y byd.

Mae dros 5,000 o gwmnïau yn y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru, ac mae’n cyflogi ryw 150,000 o bobl. Ac mae’r sector yn tyfu, gyda 22,000 yn rhagor o swyddi yn y sector yng Nghymru nag yn 2010.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn manteisio ar y cyfle i alw am gydweithrediad gwell rhwng y sector a’r ddwy lywodraeth yng Nghymru i helpu i fynd i’r afael â’r heriau mae’r sector yn eu hwynebu, gan gynnwys cael gafael ar weithlu medrus a’r her economaidd ehangach o gynhyrchiant.

Bydd yn dweud:

Er budd gweithgynhyrchwyr yng Nghymru fydd y berthynas agos rhwng diwydiant a’r llywodraeth. Rydw i eisiau sicrhau mai Cymru a’r DU yn ehangach yw’r lle gorau yn y byd i wneud busnes - ac rydw i am weld Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn darparu cymaint o gefnogaeth â phosibl i gwmnïau er mwyn cyflawni’r nod hwn.

Wrth i bedwerydd rownd y trafodaethau i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd gychwyn, mae Llywodraeth y DU yn mynd ati i gynyddu ei hymgysylltiad â busnesau ledled y DU i sicrhau bod lleisiau busnesau Prydain yn cael eu clywed a’u hadlewyrchu gydol y broses ymadael.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Mae digwyddiad heddiw yn rhoi cyfle gwych arall i mi glywed am flaenoriaethau busnesau amrywiol ar gyfer ein hymadawiad â’r UE.

Rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau cytundeb a fydd yn gweithio i bob rhan o’r DU. Dyna pam mae’n hanfodol ein bod yn parhau i siarad â busnesau a sefydliadau o bob rhan o’r wlad i sicrhau bod eu barn yn cael ei chynrychioli’n llawn wrth i’r trafodaethau barhau.

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu’r canllaw, Canllaw Allforio Cymru – dogfen sy’n nodi’r amrywiaeth lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y DU, ac mae’n cynnwys storïau i ysbrydoli am gwmnïau o Gymru sy’n allforio’n llwyddiannus.

  • Cewch lawrlwytho copi o’r canllaw yma

Cyhoeddwyd ar 9 October 2017