Stori newyddion

Mae'r Gofrestr Endidau Tramor newydd yn fyw

Daeth y Gofrestr Endidau Tramor i rym yn y DU ar 1 Awst 2022 trwy'r Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 newydd.

Mae’r Gofrestr Endidau Tramor newydd yn cael ei chadw gan Dŷ’r Cwmnïau ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i endidau tramor sy’n berchen ar dir neu eiddo yn y DU ddatgan eu perchnogion llesiannol a/neu swyddogion rheoli. Bydd sancsiynau llym i’r rhai nad ydynt yn cydymffurfio, gan gynnwys cyfyngiadau ar brynu, gwerthu, trosglwyddo, prydlesu neu arwystlo eu tir neu eiddo yn y DU.

Yr hyn y mae’n rhaid ichi ei wneud

Rhaid i endidau tramor sydd am brynu, gwerthu neu drosglwyddo eiddo neu dir yn y DU gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau a dweud wrthym pwy yw eu perchnogion llesiannol cofrestradwy neu eu swyddogion rheoli.

Bydd angen i endidau tramor sydd eisoes yn berchen ar neu’n prydlesu tir neu eiddo yn y DU gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau hefyd a dweud wrthym pwy yw eu perchnogion llesiannol cofrestradwy neu eu swyddogion rheoli erbyn 31 Ionawr 2023.

Mae hyn yn berthnasol i endidau tramor a brynodd eiddo neu dir ar neu ar ôl:

  • 1 Ionawr 1999 yng Nghymru a Lloegr
  • 8 Rhagfyr 2014 yn yr Alban

Dim ond eiddo neu dir a brynwyd yng Ngogledd Iwerddon ar neu ar ôl 1 Awst 2022 y mae angen i endidau tramor eu cofrestru.

Bydd angen i endidau a waredodd eiddo neu dir ar ôl 28 Chwefror 2022 roi manylion y gwarediadau hynny hefyd.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch ganllawiau Tŷ’r Cwmnïau ar y Gofrestr Endidau Tramor.

Darllenwch ganllawiau Cofrestrfa Tir EM ar y Gofrestr Endidau Tramor.

Darllenwch ganllawiau Cofrestr yr Alban ar y Gofrestr Endidau Tramor.

Cyhoeddwyd ar 1 August 2022