Datganiad i'r wasg

Mae’r angen am Garchar yng Ngogledd Cymru’n parhau’n gryf yn ôl Gweinidog Swyddfa Cymru

Tynnwyd sylw Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, at yr angen am garchar yng ngogledd Cymru yn ystod ei ymweliad a Llys Ynadon Caernarfon heddiw…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Tynnwyd sylw Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, at yr angen am garchar yng ngogledd Cymru yn ystod ei ymweliad a Llys Ynadon Caernarfon heddiw.

Yn ystod ei ymweliad, cyfarfu Mr Jones a chynrychiolwyr y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, y gwasanaeth llys, y gwasanaeth prawf, yr heddlu ac awdurdodau lleol, i glywed eu barn am garchar yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Mr Jones:  “Mae gan yr asiantaethau hyn rol allweddol yn y system cyfiawnder troseddol yng ngogledd Cymru.  Roedd yn glir wrth wrando ar eu pryderon, fod yna angen mawr am garchar yng ngogledd Cymru, a gallais eu sicrhau bod Swyddfa Cymru’n cefnogi hynny.  Mae’r Ysgrifennydd Gwladol eisoes wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros Garchardai i ddatgan cefnogaeth dros gael carchar yng ngogledd Cymru, ac mae wrthi’n adolygu’r achos ar hyn o bryd.”

Cyfarfu Mr Jones a chynrychiolwyr fforwm dioddefwyr gogledd Cymru, sy’n ceisio datblygu arferion gorau o ran trin dioddefwyr troseddau.

Dywedodd Mr Jones:  “Roedd y cyfarfodydd heddiw’n ddefnyddiol dros ben, ac roeddwn yn hynod falch gyda’r agwedd amlasiantaethol o fynd i’r afael ag effaith troseddau ar y dioddefwyr.  Dylid llongyfarch fforwm dioddefwyr gogledd Cymru am fod mor arloesol gyda’r agwedd hon, sy’n haeddu cael ei hefelychu mewn rhannau eraill o’r wlad.”

Cyhoeddwyd ar 28 June 2010