Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Swyddfa Cymru yn cadarnhau’r drefn ar gyfer ymchwilio i Bwll Glo Gleision
Yn dilyn y drasiedi ym Mhwll Glo Gleision ddydd Iau 15fed Medi, mae ymchwiliad bellach ar ben ffordd. Swyddfa Cymru yw adran y llywodraeth ganolog…
Yn dilyn y drasiedi ym Mhwll Glo Gleision ddydd Iau 15fed Medi, mae ymchwiliad bellach ar ben ffordd. Swyddfa Cymru yw adran y llywodraeth ganolog sy’n gyfrifol am oruchwylio’r modd y mae’r ymchwiliad yn mynd rhagddo.
Bydd yr ymchwiliad, sy’n fater o drefn ar ol unrhyw ddigwyddiad o’r fath, yn tynnu ar arbenigedd technegol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae ymchwilwyr pyllau glo arbenigol yr Awdurdod ar y safle ar hyn o bryd. Maent yn gweithio’n agos a heddlu De Cymru, sy’n arwain yr ymchwiliad ac sydd wedi penodi Uwch Swyddog Ymchwilio.
Pan fydd ymchwiliad i’r digwyddiad yn cychwyn, bydd gan yr heddlu oruchafiaeth i ddechrau, yn unol a’r Protocol Marwolaethau sy’n Gysylltiedig a Gwaith y mae’r heddlu, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Awdurdodau Lleol a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cytuno arno. Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu cefnogaeth dechnegol. Yn nes ymlaen, efallai y bydd yn briodol rhoi goruchafiaeth dros yr ymchwiliad i’r Awdurdod, fel sydd wedi digwydd mewn achosion eraill. Fodd bynnag, mae’n rhy fuan i allu dweud a fydd hyn yn digwydd ai peidio.
Bydd adroddiad llawn ar yr hyn a achosodd y ddamwain yn cael ei gyhoeddi maes o law, er mwyn sicrhau y gellir rhoi unrhyw wersi a ddysgwyd ar waith. Ar hyn o bryd, mae’n rhy fuan i nodi achosion posib, ac rydym yn erfyn ar y cyfryngau i beidio a cheisio dyfalu.
NODYN I OLYGYDDION
-
Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut mae’r Protocol Marwolaethau sy’n Gysylltiedig a Gwaith yn gweithio drwy ddilyn y ddolen hon. http://www.hse.gov.uk/foi/internalops/fod/oc/100-199/165_9.pdf
-
Ar gyfer ymholiadau’r wasg yn ymwneud a gwaith yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ffoniwch 0151 922 1221.
-
Ar gyfer ymholiadau’r wasg yn ymwneud a Swyddfa Cymru, ffoniwch 07973 303 984.