Stori newyddion

Bydd y Gyllideb yn cynorthwyo i adfer cydbwysedd yn economi Cymru, meddai Cheryl Gillan wrth yr Uwch Bwyllgor Cymreig

Bydd mesurau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb yr wythnos ddiwethaf yn cynorthwyo i adfer cydbwysedd yn economi Cymru ac yn hyrwyddo twf cynaliadwy…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd mesurau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb yr wythnos ddiwethaf yn cynorthwyo i adfer cydbwysedd yn economi Cymru ac yn hyrwyddo twf cynaliadwy hirdymor, dyna a ddywedodd Ysgrifennydd Cymru wrth gyfarfod o’r Uwch Bwyllgor Cymreig i drafod y Gyllideb heddiw.

Ar y diwrnod y cyhoeddwyd adroddiad gan adain Sector Cyhoeddus Experian ar gyflwr economi Cymru, rhoddwyd cyfle i Aelodau Seneddol Cymru holi Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander ar sut y bydd y Gyllideb yn effeithio ar Gymru. Mae adroddiad Experian a gyflwynwyd i Grŵp Cynghori Busnes Swyddfa Cymru yn gynharach yr wythnos hon, yn darparu ystod o ddata ar gryfder economi Cymru a’r sialensiau y mae angen iddi roi sylw iddynt. Dangosodd hefyd fod llawer o’r materion economaidd sy’n wynebu Cymru yn rhai sy’n bodoli ers tro, o gyfnod cyn y dirwasgiad.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’r adroddiad gan Experian yn nodi’n glir faint y problemau a etifeddwyd gennym a dyna paham, drwy’r Gyllideb a’n cynlluniau ar gyfer Twf, ein bod yn rhoi mesurau yn eu lle i fynd i’r afael a’r materion hyn drwy gefnogi busnesau a theuluoedd. Yr oedd felly’n braf iawn estyn croeso unwaith eto i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i’r Uwch Bwyllgor Cymreig i amlinellu ein cynlluniau i ostwng y diffyg ariannol ac adfer cydbwysedd yn economi Cymru a’r DU.

“Fy mlaenoriaeth gyntaf yw sicrhau bod Cymru’n dychwelyd i sefyllfa o dwf economaidd cytbwys a chynaliadwy. Mae’r her sy’n ein hwynebu mor fawr ag erioed, ond yr ydym yn barod am yr her. Dangosodd y Gyllideb sut y byddwn yn cyflawni’r twf angenrheidiol i adfywio’r economi a rhyddhau ein busnesau a chroesawyd hyn gan sefydliadau busnes yng Nghymru megis y CBI a Siambr Fasnach De Cymru.

“Bydd y Llywodraeth hon, gan weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad, yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi  twf ac anfon neges glir fod Cymru ar agor i fusnes. Mae’r Gyllideb yn un sydd o blaid twf ac yn un deg. Mae’n Gyllideb sy’n gweithio i fusnes, yn gweithio i deuluoedd ac yn gweithio i Gymru.”

Cyhoeddwyd ar 30 March 2011