Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Plentyn yn troi’n 16 Peidiwch â cholli allan ar Fudd-dal Plant

Mae’n rhaid i rieni plant yn eu harddegau sy’n dechrau cyrsiau addysg bellach neu hyfforddiant cymwys ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant erbyn 31 Awst.

  • Bydd tua 1.5 miliwn o rieni pobl 16-19 oed yn cael llythyrau atgoffa yn yr wythnosau nesaf.
  • Y ffordd gyflymaf a hawsaf i ymestyn yw drwy ap CThEF neu ar-lein yn GOV.UK.

Atgoffir rhieni pobl 16-19 oed i ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant os yw eu plant yn eu harddegau’n aros mewn rhai mathau o addysg neu hyfforddiant ar ôl eu TGAU neu eu TGAU Cenedlaethol 5.

Bydd Budd-dal Plant yn dod i ben yn awtomatig ar 31 Awst ar neu ar ôl pen-blwydd plentyn yn 16 oed oni bai bod rhieni’n cadarnhau cynlluniau eu plant yn eu harddegau. Bydd tua 1.5 miliwn o lythyrau atgoffa yn cael eu hanfon o ddiwedd mis Ebrill ymlaen, gyda’r rhan fwyaf yn cyrraedd cartrefi ddechrau mis Mai.

Nid oes angen i rieni aros am eu llythyr. Agorodd gwasanaeth digidol Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar gyfer ymestyn ar 1 Ebrill, felly gall y rhai sydd eisoes yn gwybod cynlluniau eu plant yn eu harddegau weithredu heddiw.

Gellir gwneud estyniadau hawlio ar ap CThEF neu ar-lein yn GOV.UK. Mae’r llythyrau hefyd yn cynnwys cod QR sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r gwasanaeth digidol.

Mae Budd-dal Plant werth £27.05 yr wythnos – neu £1,406.60 y flwyddyn – i’r plentyn hynaf neu’r unig blentyn ac £17.90 yr wythnos i bob plentyn ychwanegol. Y llynedd, estynnodd 874,000 o rieni eu hawliad, gyda mwy na hanner yn gwneud hynny ar-lein neu drwy ap CThEF.

Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:

Mae Budd-dal Plant yn hwb ariannol go iawn i deuluoedd, felly os yw’ch plentyn yn ei arddegau eisoes yn gwybod ei fod yn aros mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl ei TGAU neu ei arholiadau Cenedlaethol 5, does dim angen i chi aros am ein llythyr.

Gallwch ymestyn eich hawliad Budd-dal Plant heddiw mewn munudau drwy ap CThEF neu ar-lein yn GOV.UK.

Gall Budd-dal Plant barhau i bobl ifanc sy’n astudio’n llawn amser mewn addysg nad yw’n addysg uwch, neu ar gyrsiau hyfforddi cymeradwy di-dâl. Ewch i GOV.UK am y rhestr lawn o gyrsiau cymwys.

Os oes gan hawliwr Budd-dal Plant neu ei bartner incwm unigol rhwng £60,000 ac £80,000, mae’n bosibl y bydd yr enillydd uchaf yn agored i’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC). Defnyddiwch y gyfrifiannell dreth Budd-dal Plant ar GOV.UK i gael amcangyfrif. Gall rhieni dalu’r tâl drwy eu cod treth TWE gan ddefnyddio’r gwasanaeth digidol HICBC, neu drwy Hunanasesiad.

Rhagor o Wybodaeth

Rhagor o wybodaeth am Fudd-dal Plant i bobl 16 i 19 mlwydd oed..

Bydd tua 1.5 miliwn o lythyrau’n cael eu hanfon at rieni pobl 16-19 oed o ddiwedd mis Ebrill 2026 ymlaen. Disgwylir i lythyrau gyrraedd o 8 Mai ymlaen.

Nid oes angen i rieni aros am eu llythyr. Mae’r gwasanaeth digidol ar agor nawr yn GOV.UK ac ar ap CThEF.

Dim ond os yw eu plant yn eu harddegau’n dechrau cwrs newydd neu hyfforddiant cymhwysol ym mis Medi y mae angen i rieni weithredu. Nid oes angen i’r rhai sydd eisoes yng nghanol cwrs a hysbyswyd CThEF yn flaenorol gysylltu â ni.

Mae’n rhaid bod y plentyn yn astudio am o leiaf 12 awr bob wythnos ar gyfartaledd, a hynny o dan oruchwyliaeth neu wrth wneud profiad gwaith sy’n ymwneud â’r cwrs i gael ei ystyried mewn addysg amser llawn. Mae hyn yn cynnwys addysg ar yr aelwyd. Os oes gan blentyn salwch neu anabledd, mae’n bosibl y bydd yn gallu gwneud llai o oriau lle mae hyn yn briodol iddo.

Ni ellir hawlio Budd-dal Plant os yw cwrs person ifanc yn rhan o gontract swydd.

Gall rhieni weld a rheoli eu hawliad drwy ap CThEF, gan gynnwys gweld gwybodaeth am daliadau, tystiolaeth o hawl, ac ychwanegu plant.

Bydd codau QR mewn llythyrau CThEF bob amser yn cyfeirio at GOV.UK neu ap CThEF. Rhowch wybod am e-byst amheus gyda chodau QR i phishing@hmrc.gov.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Ebrill 2026