Datganiad i'r wasg

Datganiad Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

Cynhaliwyd ail gyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ym Mhort Talbot ar 30 Tachwedd 2023.

Close-up image of steel being cast

Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am yr ail dro dydd Iau 30 Tachwedd ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot, lle y cytunwyd y cylch gorchwyl ac aelodaeth y ddau is-grŵp ar gyfer Pobl, Sgiliau a Busnes; ac ar gyfer Lle ac Adfywio. Bydd yr is-grwpiau yn ysgogi partneriaid lleol ac yn casglu gwybodaeth ar ystod o raglenni cefnogaeth, gan awgrymu camau gweithredu i’r Bwrdd Pontio arb le y gellir buddsoddi’r £100m i adeiladau gwytnwch a hyder ym Mhort Talbot a’r ardaloedd yr effeithir arnynt.

Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn cadeirio’r Bwrdd Pontio, tra bod Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yng Nghymru, a Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ffyniant Bro, yn ddirprwy gadeiryddion. Mae aelodau’r Bwrdd yn cynnwys Nusrat Ghani, Gweinidog Diwydiant a Diogelwch Economaidd; Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK; Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK; Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell Nedd a Phort Talbot; Stephen Kinnock, AS dros Aberafan; a David Rees, AS dros Aberafan. Hefyd, croesawodd y Bwrdd dau aelod annibynnol newydd, Katherine Bennett CBE ac Anne Jessopp. Mae cynrychiolwyr o undebau llafur hefyd yn mynychu.

Bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Pontio yn cael ei gynnal yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Datganiad gan Gadeirydd Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies.

Rwy’n falch bod Llywodraeth y DU wedi gallu dod o hyd i ffordd o sicrhau bod dur yn parhau i gael ei gynhyrchu yn Ne Cymru.

Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth posib i gefnogi pobl a all gael eu heffeithio o ganlyniad i benderfyniad Tata.

-diwedd-

NODIADAU I OLYGYDDION

Cyhoeddodd Tata Steel cynigion ym mis Medi i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant Llywodraeth y DU gwerth hyd at £500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur mwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Sefydlwyd y Bwrdd Pontio ym mis Hydref i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau yr effeithir arnynt gan y trawsnewid arfaethedig i gynhyrchu dur CO₂ isel.

Bydd gan y bwrdd fynediad i hyd at £100 miliwn i fuddsoddi mewn rhaglenni sgiliau ac adfywio ar gyfer yr ardal leol. Bydd yn canolbwyntio ar:  

  • Gefnogaeth ar unwaith i’r pobl, busnesau a chumunedau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y trawsnewid arfaethedig i gynhyrchu dur CO₂ isel ym Mhort Talbot; a
  • Chynllun ar adfywio lleol a thwf economaidd ar gyfer y degawd nesaf.

Nid yw’r Bwrdd Pontio yn goruchwylio’r buddsoddiad arfaethedig o £1.25m mewn cynhyrchu dur CO₂ isel yn Tata Steel UK. Mae hyn i’r cwmni i oruchwylio gydag Adran Busnes a Masnach, Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd ar 30 November 2023