Sesiwn Holi ac Ateb Tata Steel/Gwaith Dur Port Talbot
Yma, ceir gwybodaeth am ymateb Llywodraeth y DU i gyhoeddiadau diweddar Tata Steel ynghylch gwaith dur Port Talbot a’i weithrediadau yn y DU.
Pa gytundeb sydd wedi’i wneud rhwng Tata Steel a Llywodraeth y DU?
-
Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu un o’r pecynnau cymorth mwyaf erioed i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Ar 15 Medi 2023, cytunodd Llywodraeth y DU a Tata ar gynllun a fyddai’n golygu bod y ffwrnais arc drydan yn dod i gymryd lle’r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.
-
Bydd y ffwrnais arc yn costio £1.25 biliwn. Bydd Llywodraeth y DU yn talu £500 miliwn, a bydd Tata yn talu’r gweddill. Bydd y cynnig o osod y ffwrnais arc yn arbed 5,000 o’r 8,000 o swyddi sydd mewn perygl o gael eu colli ar draws Tata Steel UK, yn ogystal â miloedd yn rhagor yn y gadwyn gyflenwi. Bydd hefyd yn sicrhau bod dur yn parhau i gael ei greu yng Nghymru yn y dyfodol.
-
Yn ogystal â hyn, mae £100 miliwn wedi cael ei roi tuag at greu Bwrdd Pontio newydd. Dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bydd y Bwrdd hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r diwydiant, a fydd yn cefnogi’r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Daw £80 miliwn o’r cyllid hwn gan Lywodraeth y DU, a £20 miliwn gan Tata.
A yw’r swm hwn o arian yn ddigon i sicrhau dyfodol y gwaith dur yng Nghymru?
-
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi un o’i phecynnau cymorth mwyaf ar waith er mwyn datblygu dyfodol cynaliadwy i Bort Talbot, ac er mwyn diogelu’r gwaith dur yng Nghymru. Mae’r cytundeb hwn wedi arbed miloedd o swyddi yn y DU: 5,000 yn Tata, a miloedd yn fwy yng nghadwyn gyflenwi’r DU.
-
Bydd pecyn Llywodraeth y DU yn cael ei roi fel rhan o £1.25 biliwn a fydd yn cael ei fuddsoddi gan Tata.
-
Mae’r gefnogaeth aruthrol hon yn dangos i ba raddau y mae Llywodraeth y DU yn gwerthfawrogi’r diwydiant dur yng Nghymru, ynghyd â’r bobl a’r cymunedau y mae eu bywoliaeth yn dibynnu arno.
-
Ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth Cymru wedi darparu unrhyw gymorth i helpu gweithwyr dur, nac i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yn ne Cymru.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu â gwleidyddion na’r undebau dur yng Nghymru?
-
Mae hyn yn anghywir. Siaradodd y Canghellor â Phrif Weinidog Cymru ym mis Medi, ddiwrnod cyn cyhoeddiad gwreiddiol Tata.
-
Hefyd, cynigiodd Ysgrifennydd Cymru siarad â Phrif Weinidog Cymru cyn i Tata wneud ei gyhoeddiad ym mis Ionawr ynghylch colli swyddi, ond cafodd y cynnig hwn ei wrthod.
-
Cyfarfu Ysgrifennydd Cymru â phob un o’r tri undeb dur ym mis Hydref 2023, ac ers hynny mae’r undebau wedi mynychu’r Bwrdd Pontio sy’n cael ei gadeirio gan Ysgrifennydd Cymru.
-
Fe aeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach i ymweld â Phort Talbot y gwanwyn diwethaf, ac ym mis Medi pan gafodd y cynnig hwn ei gyhoeddi. Mae hefyd wedi cwrdd â chynrychiolwyr Tata droeon, yn y DU ac yn India. Mae hi wedi ymrwymo i gefnogi diwydiant dur y DU.
-
Mae Llywodraeth y DU yn darparu £80 miliwn o gyllid ar gyfer Bwrdd Pontio pwrpasol, sef fforwm sy’n gweithio’n agos i gefnogi’r gymuned leol a’r gweithwyr yr effeithir arnynt. Cadeirydd y Bwrdd Pontio yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Y Dirprwy Gadeiryddion yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru. Mae Tata yn darparu £20 miliwn ar ben hynny, gan ddod â chyfanswm y cyllid ar gyfer y Bwrdd Pontio i £100 miliwn.
-
Ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth Cymru wedi darparu unrhyw gymorth ariannol i helpu gweithwyr dur, nac i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yn ne Cymru.
-
Wedi talu am bron i 3,000 o ddiswyddiadau y mae’r £500 miliwn a fuddsoddwyd gan Lywodraeth y DU.
-
Mae hyn yn anghywir. Mae’r cytundeb hwn wedi arbed miloedd o swyddi dur ym Mhort Talbot, de Cymru a ledled y DU, a miloedd yn fwy yn y gadwyn gyflenwi ehangach hefyd.
-
Mae wedi achub y diwydiant dur yn ne Cymru drwy newid i ffwrneisi arc trydan, gan greu dyfodol cystadleuol a gwyrdd i’r rhanbarth.
-
Mae’n cynnig dyfodol cynaliadwy, nid yn unig i dde Cymru ond hefyd i ddiwydiannau ehangach y gadwyn gyflenwi. Yr opsiwn arall oedd cau’r ffatri gyfan a chael gwared â phob swydd. Nid oedd Llywodraeth y DU yn barod i adael i hynny ddigwydd.
-
Roedd Tata Steel UK yn colli swm enfawr o arian - cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn - a heb gymorth gan Lywodraeth y DU, roedd yr holl waith mewn perygl o ddod i ben ac 8,000 a mwy o swyddi’n cael eu colli. Mae Llywodraeth y DU wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol, gan arbed miloedd o swyddi a sicrhau dyfodol cynaliadwy i bobl ym Mhort Talbot.
-
Fodd bynnag, rydym i gyd yn cydnabod bod hyn yn ergyd ddinistriol i gymuned Port Talbot, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i arbed swyddi a chefnogi unrhyw un sy’n colli eu gwaith. Dyna pam mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu Bwrdd Pontio Port Talbot, gyda chymorth £80 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU ac £20 miliwn gan Tata.
-
Mae Tata ei hun wedi cadarnhau na fydd yn cael unrhyw arian gan Lywodraeth y DU nes bod y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo ar y ffwrnais arc drydan newydd.
Beth yw Bwrdd Pontio Port Talbot, a sut y bydd yn helpu’r bobl y mae cyhoeddiad Tata yn effeithio arnynt?
-
Mae Bwrdd Pontio Port Talbot yn datblygu ymateb i’r newid yng ngwaith dur Tata.
-
Mae’r Bwrdd yn cael ei gadeirio gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS, ac mae’n dod â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Tata Steel, gwleidyddion lleol, llywodraeth leol ac ystod eang o arbenigwyr o wahanol gefndiroedd at ei gilydd. Y Dirprwy Gadeiryddion yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru.
-
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £80 miliwn, ac mae Tata yn darparu £20 miliwn ar ben hynny, gan ddod â chyfanswm y cyllid ar gyfer y Bwrdd Pontio i £100 miliwn.
-
Unwaith y bydd canlyniad yr ymgynghoriad ffurfiol rhwng Tata a’i weithlu yn hysbys, bydd y Bwrdd yn buddsoddi mewn rhaglenni sgiliau ac adfywio ar gyfer yr ardal leol.
-
Bydd yn darparu cymorth i’r bobl, y busnesau a’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio gan y newid arfaethedig i waith dur CO₂ isel ym Mhort Talbot, yn ogystal â chynllun ar gyfer adfywio a thwf economaidd Port Talbot am y degawd nesaf.
Bydd y cytundeb yn golygu bod y DU bellach yn dibynnu ar fewnforion.
-
Mae hyn yn anghywir. Mae ffwrneisi arc trydan yn golygu y bydd y DU yn fwy hunangynhaliol o ran cynhyrchu dur, ac ni fydd yn dibynnu ar fewnforio deunyddiau crai.
-
Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o ddur sgrap y DU yn cael ei allforio – gellid gwneud defnydd llawer gwell ohono gartref.
-
Nid ydym yn disgwyl y bydd newid i ffwrneisi arc trydan yn effeithio ar brosiectau cenedlaethol hanfodol a dur sy’n cael ei greu at ddibenion amddiffyn.
-
Hefyd, mae ffwrneisi chwyth yn dod i ddiwedd eu hoes, ac ni fyddwn yn gallu dibynnu arnynt i ddarparu’r dur sydd ei angen arnom ar gyfer dyfodol diogel a ffyniannus yn y DU. Heb ffwrneisi arc trydan, mae risg wirioneddol y byddem yn colli’r diwydiant cynhyrchu dur yn gyfan gwbl yn y DU.
A fyddai modd cadw’r ffwrnais chwyth ar agor?
-
Bydd y cytundeb hwn yn rhoi’r dechnoleg ddiweddaraf ar waith; ffwrnais arc drydan, a fydd yn sicrhau bod dur yn cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy yn ne Cymru am flynyddoedd i ddod.
-
Mae Tata wedi dweud ei fod wedi ystyried hyn, ond ei fod wedi’i wrthod oherwydd costau gormodol a hefyd oherwydd yr anhawster o adeiladu ffwrnais arc drydan ar yr un safle â’r gwaith dur presennol.
Mae swyddi yn y DU yn cael eu haberthu er budd targedau gwyrdd.
-
Mae Tata wedi dweud bod yn rhaid i’w fusnesau yn y DU fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ariannol.
-
Mae’r datblygiad arc trydan arfaethedig yn helpu i gyflawni’r ddau nod, gan gynnwys y nod o leihau colledion ariannol sylweddol y cwmni.
-
Mae cyfrifon Tata, sydd ar gael i’r cyhoedd ei gweld, yn dangos bod Tata Steel UK wedi colli £4 biliwn a mwy ar ôl treth ers 2007.
-
Mae Tata Steel UK yn colli dros £1 miliwn y dydd, ac yn dweud bod angen brys i sicrhau bod y busnes yn gynaliadwy yn ariannol.
Sut mae hwn yn gytundeb da i Bort Talbot, pan fydd hanner y swyddi’n cael eu colli?
-
Mae’r cytundeb hwn – sy’n cynnwys un o becynnau cymorth mwyaf y llywodraeth mewn hanes – yn sicrhau bod y diwydiant dur yn parhau i fod yn hyfyw ac yn gystadleuol yn y dyfodol, gan arbed miloedd o swyddi medrus a’r dreftadaeth gref o gynhyrchu dur yn ne Cymru.
-
Heb y buddsoddiad hwn, byddai safle Port Talbot yn gorfod cau, pob swydd yn cael ei cholli, a’r gwaith o gynhyrchu dur yn yr ardal yn dod i ben.
A ystyriwyd dewisiadau eraill yn lle’r cytundeb hwn?
-
Mae Tata wedi dweud ei fod wedi ystyried dewisiadau amgen, ond nad oeddent yn hyfyw oherwydd costau gormodol neu oherwydd nad oedd y dechnoleg angenrheidiol wedi’i datblygu’n llawn ar hyn o bryd.
-
Fodd bynnag, nid yw prosiect trawsnewid Port Talbot yn atal technolegau pellach rhag cael eu rhoi ar waith mewn pryd.
Ym mha ffordd arall y mae Llywodraeth y DU yn cefnogi dyfodol Port Talbot/economi de Cymru?
-
Mae Llywodraeth y DU yn darparu cefnogaeth a buddsoddiad sylweddol i economi Port Talbot a de Cymru.
-
Mae’r prosiectau’n cynnwys datblygu’r Porthladd Rhydd Celtaidd ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau, gyda chefnogaeth hyd at £26 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, a fydd yn canolbwyntio ar dechnolegau carbon isel. Ei nod yw creu tua 16,000 o swyddi erbyn canol 2030. Mae’r Môr Celtaidd hefyd yn lleoliad gwych ar gyfer gwynt arnofiol ar y môr, a gallai unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol arwain at greu miloedd o swyddi medrus.
-
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe – sy’n cwmpasu Port Talbot – yn parhau i ddarparu buddsoddiad ar draws y rhanbarth.