Datganiad i'r wasg

“Cymryd risg a bod ag egni i arloesi”

Alun Cairns i gyflwyno’r brif araith yng Ngwobrau Technoleg Cymru 2017

Rt Hon Alun Cairns MP

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn galw ar fusnesau i gymryd risg a dangos egni i arloesi wrth iddo ymuno â goreuon y diwydiant technolegau electronig a meddalwedd yng Nghymru yng Ngwobrau Technoleg Cymru 2017 (22 Mehefin).

Wrth gyflwyno’r brif araith yn y dathliad gala yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, bydd Mr Cairns yn dweud “nad oes llwybr hawdd at ffyniant” ond bod “arloesedd a phenderfyniad” sector technoleg Cymru’n gallu “creu cyfleoedd ar gyfer twf economaidd y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono”.

Wrth siarad 24 awr ar ôl Agoriad Gwladwriaethol y Senedd, bydd Mr Cairns yn ailadrodd ymrwymiad Llywodraeth y DU i “greu a chefnogi’r amodau priodol ar gyfer diwydiant, fel bod yr economi’n parhau i dyfu”.

Bydd yn tynnu sylw at amcanion y Strategaeth Ddiwydiannol Fodern a gwaith asiantaeth arloesi’r Llywodraeth, Innovate UK, sydd wedi dyfarnu mwy na £4 miliwn o gyllid grant i gwmnïau sy’n ymgiprys am Wobrau Technoleg Cymru.

Bydd hefyd yn pwysleisio’r cyfleoedd i fusnesau Cymru wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn ailgadarnhau ei ymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth Cymru i roi sylw i’r materion sydd o’r pwys mwyaf i bobl yn y sector technoleg yng Nghymru. Bydd yn dweud “boed yn ddatganoledig neu heb ei ddatganoli, rydw i’n benderfynol y dylen ni gyflawni er budd pobl Cymru”.

Gwobrau Technoleg Cymru yw prif ddigwyddiad Gŵyl Arloesi Cymru (19-30 Mehefin) ac mae’n dathlu rhagoriaeth yn y diwydiant technolegau electronig a meddalwedd yng Nghymru. Dyma ddiwydiant sy’n cyflogi oddeutu 39,000 o bobl mewn mwy na 3,000 o gwmnïau sy’n creu trosiant ar y cyd o fwy nag £8.5 biliwn.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan y DU enw da yn fyd-eang am arloesi, dyfeisio, ymchwilio a datblygu. Mae’n un o’n cryfderau mwyaf ni ac yn un o’r sbardunau mwyaf i greu twf. Mae nid yn unig yn gallu creu chwyldro o ran y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau ond hefyd gall gynnig cyfleoedd gwych i fusnesau fanteisio arnynt a thyfu.

Rydw i eisiau lle canolog i Gymru yn yr arloesi newydd sy’n newid y ffordd rydyn ni’n gwneud busnes a’r ffordd rydyn ni’n byw, a rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu atebion ar gyfer yfory.

Innovate UK yw asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU sy’n gweithio gyda phobl, cwmnïau a sefydliadau partner i’w helpu i wneud hynny. Mae’n bleser mawr eu gweld yn chwarae rhan mor greiddiol yng Ngŵyl Arloesi Cymru.

Hoffwn ganmol cyflawniadau pawb sydd wedi’u henwebu heno. Gobeithio y bydd eu llwyddiant yn ysbrydoli arloeswyr y dyfodol i fynegi eu syniadau eu hunain a chyflwyno cyfleoedd cyffrous ledled Cymru, y DU a’r byd.

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Innovate UK yw asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU sy’n gweithio gyda phobl, cwmnïau a sefydliadau partner i ganfod a sbarduno arloesi ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg er mwyn datblygu economi’r DU.
Cyhoeddwyd ar 22 June 2017