Datganiad i'r wasg

Newid i Arbed - £2.7 biliwn ar gael wrth newid cyflenwr ynni

Drwy chwilio am y fargen orau a manteisio ar y bargeinion ynni gorau sydd ar gael ar y farchnad, gall 650,000 o aelwydydd yng Nghymru arbed tua £200.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae 650,000 o aelwydydd ar draws Cymru yn colli’r cyfle i gael eu cyfran o £2.7 biliwn drwy aros gyda’r un cwmni ynni.

Drwy chwilio am y fargen orau a manteisio ar y bargeinion ynni gorau sydd ar gael ar y farchnad, gall miliynau o bobl arbed tua £200 - sef arbedion posibl o £130 miliwn oddi ar filiau.

Mae’r ymgyrch ‘Pŵer i Newid’ a lansiwyd heddiw yn annog pobl i newid cyflenwr ac arbed arian drwy ymweld â www.ByddYnSiopwrYnni.com.

Gyda 26 cwmni ynni ar gael yn y farchnad a rhai bargeinion penodedig sydd £100 yn rhatach nag yr oeddynt flwyddyn yn ôl, dyma’r amser gorau erioed i ddod o hyd i fargen wych, newid ac arbed.

Wrth lansio’r ymgyrch, dywedodd yr Ysgrifennydd dros Ynni a Newid Hinsawdd, Ed Davey:

Pan ddaw’n fater o newid, mae’r gallu i gael bargen well ac arbed yn nwylo pobl eu hunain.

Rydym wedi diwygio’r farchnad er mwyn cael mwy o gyflenwyr, mwy o gystadleuaeth a’i gwneud yn broses lawer symlach a chynt i newid.

Mae hynny’n golygu y gall miliynau o bobl newid cyflenwr ac arbed cannoedd o bunnoedd heddiw.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

Mae’r ymgyrch ‘Y Pŵer i Newid’ yn gyfle gwych i bobl ym mhob rhan o Gymru.

Dim ond drwy newid cyflenwr, gall pobl yng Nghymru gadw mwy o’u harian ar ôl gweithio mor galed amdano a chael mwy o sefydlogrwydd ariannol.

Byddwn yn annog defnyddwyr i ymweld â’r wefan i weld a fyddai newid cyflenwr yn arbed arian iddynt.

Dywedodd y Gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd, Amber Rudd:

Rydym eisoes wedi tynnu £50 oddi ar filiau a nawr rydym yn annog pobl i fanteisio ar y farchnad ynni fwyaf cystadleuol rydym erioed er mwyn arbed cannoedd o bunnoedd.

Yn sgil grymuso Cod Hyder Ofgem ar gyfer gwefannau cymharu prisiau, gall pobl deimlo’n fwy hyderus nag erioed y byddant yn gweld arbedion gwirioneddol wrth newid.

Mae rhaglen y Llywodraeth ar gyfer diwygio’r farchnad ynni yn cynnwys y canlynol:

  • Hanneru’r amser y mae’n gymryd i newid – bellach dim ond 17 niwrnod sydd ei angen i newid cyflenwr ynni o gymharu â 5 wythnos y llynedd
  • Annog cyflenwyr newydd i ymuno â’r farchnad – mae 20 cyflenwr annibynnol ar gael erbyn hyn
  • Deddfu er mwyn cefnogi diwygiadau Ofgem sy’n gorfodi cwmnïau ynni i wneud eu biliau’n haws eu deall - a rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid ynghylch sut i newid
  • Mae Ofgem wedi grymuso ei God Hyder ar gyfer gwefannau cymharu prisiau, gan bennu safonau llymach o ran sut mae tariffau yn cael eu harddangos a rhoi tan ddiwedd mis Mawrth i wefannau gydymffurfio â hyn

Dywedodd Martin Lewis, Arbenigwr ar Arbed Arian:

Mae angen i ni weiddi nerth ein pennau am fanteision newid tariff. Mae llawer gormod o bobl yn meddwl bod cwmnïau ynni ‘i gyd yr un fath’, sydd ymhell o fod yn wir - mae gwahaniaethau enfawr rhyngddynt o ran pris a gwasanaeth cwsmer.

Y pryder yw y bydd y sôn sydd wedi bod am y gostyngiadau diweddar mewn prisiau, er eu bod yn ostyngiadau pitw, wedi rhoi hyder ffug i lawer o bobl drwy wneud iddynt feddwl eu bod wedi cael bargen dda. Bydd archwilio’r ffigurau yn datgelu’r gwirionedd annymunol – sef bod y sefyllfa go iawn yn dra gwahanol.

Hyd yn oed ar ôl gostwng prisiau, bydd rhywun sydd ar dariff safonol un o’r 6 chyflenwr mawr ac yn defnyddio lefel nodweddiadol o ynni yn talu £1,158 y flwyddyn. Pe bai’r unigolyn hwnnw yn newid i’r tariff rhataf, byddai’n talu ychydig dros £900 y flwyddyn. Felly, mae’n werth chweil i bobl roi 10 munud o’u hamser i weld os gallent arbed £250 iddynt eu hunain - ar gyfradd o £1,500 yr awr, pe bai rhywun arall yn cynnig hyn i chi fel gwaith, fyddech chi’n gwrthod?

Bydd yr ymgyrch ‘Y Pŵer i Newid’ yn para am bedair wythnos a bydd yn cynnwys hysbysebu ar raddfa genedlaethol, rhanbarthol ac ar-lein, er mwyn annog pobl i newid ac arbed.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i newid cyflenwr ynni, ewch i www.BeAnEnergyShopper.com neu ffoniwch y Gwasanaeth Cyngor ar Arbed Ynni ar 0300 123 1234.

Cyhoeddwyd ar 16 February 2015