Datganiad i'r wasg

Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2021

Ysgrifennydd Cymru: Yn falch o weld Abertawe’n chwifio’r faner dros Gymru yn y ras ar gyfer 2021

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod Coventry, Paisley, Stoke-on-Trent, Sunderland ac Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer bod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021.

Daw’r cyhoeddiad hwn yn dilyn cyfarfod y panel cynghori annibynnol a gadeiriwyd gan Phil Redmond. Mae pum allan o’r un ar ddeg tref a dinas a oedd wedi cyflwyno cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021 wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y fraint.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yma mae’r ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf i gael ei sefydlu yn y DU a dyma’r rhanbarth a ddaeth â’r rheilffordd teithwyr cyntaf i’r byd, felly mae cyflawniadau nodedig iawn Abertawe, o’r presennol a’r gorffennol, yn golygu ei fod yn gystadleuydd safonol iawn ar gyfer cael ei goroni’n Ddinas Diwylliant y DU yn 2021. Rwy’n gwybod y byddan nhw’n cyflwyno’r achos cryfaf posib yn y ras am y teitl, ac rwy’n gobeithio y bydd y bobl leol yn achub ar bob cyfle i gefnogi’r cais.

Er y bydd siom draw yn Nhyddewi heddiw, mae’n bwysig cofio fod y broses o gyflwyno cais wedi gwneud cymaint i gael budd o nodweddion yr ardal hardd hon a thynnu sylw cynulleidfa ehangach ati. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn llwyfan ar gyfer chwifio’r faner dros Gymru fel Dinas Diwylliant y DU yn y dyfodol.

Ym mis Rhagfyr 2017, bydd naill ai Coventry, Paisley, Stoke, Sunderland neu Abertawe yn cael ei henwi’n drydedd Ddinas Diwylliant y DU, gan ddilyn ôl troed Derry-Londonderry a Hull.

Hull yw’r Ddinas Diwylliant ar hyn o bryd, ac mae ei rhaglen yn cynnwys 365 diwrnod o ddigwyddiadau diwylliannol. Amcangyfrifir fod Dinas Diwylliant wedi arwain at hwb o £60 miliwn i’r economi leol yn 2017. Mae naw o bob deg o drigolion wedi mynychu neu gymryd rhan mewn digwyddiad fel rhan o Hull 2017 ac mae’r ddinas wedi cael dros £1 biliwn o fuddsoddiad ers ennill y teitl yn 2013. Bydd enillydd Dinas Diwylliant y DU 2021 hefyd yn cael mynediad at grant gwerth £3 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd John Glen, y Gweinidog dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth:

Rydyn ni wedi derbyn ceisiadau cryf o bob cwr o’r DU ac mae gennym ni nawr restr fer wych o bump sy’n adlewyrchu amrywiaeth ac uchelgais ddiwylliannol ein trefi a’n dinasoedd.

Hoffwn longyfarch yr un ar ddeg a gyflwynodd geisiadau, a oedd yn enghreifftiau campus o sut mae dathlu eu diwylliant a’u treftadaeth eu hunain, ac a oedd yn dangos cymaint o fri ac anrhydedd sydd i Ddinas Diwylliant y DU.

Roedd cryfder y gystadleuaeth yn dangos i ni pa mor werthfawr yw ein hasedau diwylliannol i’n trefi, gan roi hwb i dwristiaeth a swyddi mewn cymunedau lleol. Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae Hull wedi manteisio ar ei statws fel Dinas Diwylliant 2017 a pha mor fuddiol y mae wedi bod i’r ardal. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth a ddaw yn 2021.

Dywedodd Phil Redmond, Cadeirydd panel Dinas Diwylliant y DU:

Roedd yr ansawdd, yr ymroddiad a’r brwdfrydedd a oedd yn cael eu cyfleu yn yr un ar ddeg cais yn gwneud penderfynu ar restr fer i’w hargymell i Weinidogion yn dasg anodd iawn, fel oedd yn wir gyda’r ddwy gystadleuaeth flaenorol ar gyfer Dinas Diwylliant y DU. Mae’r awydd i ddefnyddio diwylliant er mwyn adfywio a chryfhau cymunedau’n amlwg yn gryfach nag erioed. At ei gilydd, roedd y panel yn credu bod cais y pum dinas yn dangos potensial ar gyfer rhaglen Dinas Diwylliant y DU 2021. Hoffwn ddiolch i’r un ar ddeg ymgeisydd am eu holl waith ac rwy’n edrych ymlaen at dderbyn y ceisiadau terfynol gan Coventry, Paisley, Stoke-on-Trent, Sunderland ac Abertawe yn nes ymlaen eleni.

Bydd yr ardaloedd ar y rhestr fer nawr yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais terfynol erbyn diwedd mis Medi. Bydd y panel yn asesu’r ceisiadau terfynol gan y dinasoedd sydd ar y rhestr fer cyn cyhoeddi’r enillydd ym mis Rhagfyr.

Bydd yr ardaloedd aflwyddiannus yn derbyn adborth manwl ynghylch eu ceisiadau. Hefyd bydd gweinidogion a swyddogion yn cysylltu â nhw er mwyn trafod y ffordd orau iddynt wireddu eu huchelgais o gael cydnabyddiaeth eang am eu cynnig diwylliannol.

Nodiadau i olygyddion

  • Cyflwynwyd yr un ar ddeg cais cychwynnol gan Coventry, Henffordd, Paisley, Perth, Portsmouth, Tyddewi a Chantref Pebidiog, Stoke-on-Trent, Sunderland, Abertawe, Warrington a Wells.

  • I sicrhau arian grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd angen i’r ardal lwyddiannus ddangos bod ei rhaglen yn seiliedig ar dreftadaeth a’i bod yn ehangu ar fuddsoddiad presennol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Cyhoeddwyd ar 14 July 2017