Datganiad i'r wasg

Prosiect Lagŵn Llanw Bae Abertawe yn cael caniatâd cynllunio

Rhoddwyd caniatâd cynllunio heddiw i adeiladu lagŵn llanw cyntaf y byd, gan roi hwb i'r broses o symud tuag at gymysgedd o ynni carbon isel a gynhyrchir gartref.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio heddiw i adeiladu lagŵn llanw cyntaf y byd, gan roi hwb i’r broses o symud tuag at gymysgedd o ynni carbon isel a gynhyrchir gartref.

Os bydd y tyrbinau hyn yn cael eu hadeiladu ar y morglawdd arfaethedig, chwe milltir, ar siâp pedol o amgylch Bae Abertawe yng Nghymru, gallent gynhyrchu oddeutu 500GWh o drydan carbon isel bob blwyddyn.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne, Gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd a Swyddfa Cymru:

Mae angen rhagor o ffynonellau ynni glân a gynhyrchir gartref arnom ni, a fydd yn helpu i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil o dramor. Gallai prosiectau ynni carbon isel, fel y lagŵn llanw ym Mae Abertawe, ddenu buddsoddiad, cefnogi swyddi lleol a helpu i gyfrannu at economi Cymru ac ardal Abertawe.

Ar wahân i’r caniatâd cynllunio, mae’n rhaid trafod Contract Gwahaniaeth ar gyfer y prosiect o hyd, i sefydlu a yw lagŵn llanw ym Mae Abertawe yn fforddiadwy ac yn werth am arian i ddefnyddwyr. Byddai unrhyw benderfyniad i gynnig Contract Gwahaniaeth ar gyfer prosiect Lagŵn Llanw Bae Abertawe yn amodol ar ystyriaethau gwerth am arian a fforddiadwyedd llym ac yn amodol ar gymeradwyaeth cymorth Gwladol.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae’r broses ar gyfer caniatâd datblygu yn un gwbl ar wahân i’r broses sy’n ymwneud â thrafod Contract Gwahaniaeth posibl, ac ni fydd yn effeithio ar y broses honno.

  • Cyhoeddodd yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd ym mis Rhagfyr 2014 ein bod wedi dechrau ymchwilio i’r posibilrwydd o gael rhaglen lagŵn yn y dyfodol a fyddai’n helpu i fodloni ein hanghenion ynni yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod y DU yn wyrddach ac yn lanach. Ym mis Mawrth 2015, cyhoeddodd y Llywodraeth flaenorol ei bod yn dechrau ar gamau cyntaf trafodaethau ynghylch Contract Gwahaniaeth posibl gyda Tidal Lagoon Power Ltd, datblygwyr Lagŵn Llanw Bae Abertawe, i sefydlu a yw’r prosiect lagŵn llanw ym Mae Abertawe yn fforddiadwy ac yn golygu gwerth am arian i ddefnyddwyr.

Cyhoeddwyd ar 9 June 2015