Datganiad i'r wasg

Abertawe a Tyddewi yn ceisio am deitl Ddinas Diwylliant y DU

11 ardal yn cystadlu am deitl Dinas Diwylliant y DU 2021

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU bod 11 o ardaloedd o bob cwr o’r wlad wedi cofrestru eu cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021.

Mae Coventry, Henffordd, Paisley, Perth, Portsmouth, Tyddewi a Chantref Pebidiog, Stoke-on-Trent, Sunderland, Abertawe, Warrington a Wells wedi ymuno’n ffurfiol â’r gystadleuaeth i fod yn drydedd Ddinas Diwylliant y DU.

Heddiw, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi ymrwymo £3 miliwn i enillydd teitl Dinas Diwylliant y DU o 2021 ymlaen, er mwyn rhoi hwb i dreftadaeth leol.

I sicrhau’r arian, bydd angen i’r ardal lwyddiannus ddangos bod ei rhaglen yn seiliedig ar dreftadaeth a’i bod yn ehangu ar fuddsoddiad presennol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd Matt Hancock, y Gweinidog Gwladol dros Faterion Digidol a Diwylliant:

Mae Dinas Diwylliant y DU yn gyfle gwych i drefi a dinasoedd ddathlu eu creadigrwydd, a defnyddio diwylliant i sbarduno twf economaidd.

Rwy’n falch iawn o weld cymaint o geisiadau o bob cwr o’r wlad, sy’n dangos bod llawer iawn o ardaloedd yn cydnabod y rôl bwysig y gall diwylliant ei chwarae wrth ddatblygu ac adfywio cymunedau.

Mae Dinas Diwylliant y DU yn helpu i roi hwb i dwristiaeth, ac yn codi proffil y celfyddydau a diwylliant. Mae’r ymrwymiad cyllid cyffrous a gyhoeddwyd heddiw gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn gymhelliant arall i drefi gystadlu am y teitl anrhydeddus hwn.”

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Dinas Diwylliant y DU yn deitl anrhydeddus sy’n dangos y Deyrnas Unedig ar ei gorau. Bydd y ddinas fuddugol yn cael llwyfan gwych i ddenu ymwelwyr, i annog arloesi ac i hybu twf.

Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael profi hyfrydwch a threftadaeth Tyddewi a Chantref Pebidiog ac Abertawe fel ei gilydd, ac rwy’n hyderus y bydd y ddwy ddinas yn cyflwyno’r ceisiadau cryfaf posib. Rwy’n edrych ymlaen at weld y ceisiadau hyn yn dod at ei gilydd, ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth gystadlu am y teitl.

Dywedodd Ros Kerslake, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri:

Mae’r rhestr hon yn dangos bod dinasoedd y DU yn amlwg yn awyddus iawn i ddathlu eu diwylliant unigryw. Mae treftadaeth, sydd wedi elwa cryn dipyn o gyllid y Loteri Genedlaethol dros y 23 mlynedd diwethaf, yn rhan mor bwysig o hunaniaeth dinas ac mae hefyd yn gwneud cyfraniad enfawr at dwristiaeth, swyddi a’r economi leol. Gan adeiladu ar y gefnogaeth a roddwyd i Hull ar gyfer 2017, bydd y cyllid hwn yn rhoi cyfle i Ddinas Diwylliant y DU 2021 ddangos ei threftadaeth i’r byd.

Hull yw’r ail ddinas i ennill y teitl. Mae ei rhaglen yn cynnwys digwyddiadau diwylliannol dros 365 o ddiwrnodau, ac mae dros 340,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y digwyddiad tân gwyllt In With A Bang a Made In Hull. Amcangyfrifir y bydd economi Hull eleni yn cael hwb o £60 miliwn yn sgil bod yn Ddinas Diwylliant y DU 2017. Mae’r ddinas hefyd wedi cael £1 biliwn o fuddsoddiad ers ennill y teitl yn 2013.

Bydd rhestr fer yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr haf, cyn cyhoeddi’r ardal fuddugol ym mis Rhagfyr.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Bydd yr ymrwymiad cynnar, mewn egwyddor, o £3m o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i enillydd teitl Dinas Diwylliant y DU yn galluogi’r ddinas lwyddiannus i ddechrau cynllunio’n gynnar, er mwyn sicrhau bod treftadaeth yn rhan hanfodol o’r rhaglen ddiwylliannol a fydd yn para am flwyddyn.

  2. Yn yr un modd â holl ddyfarniadau cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd rhaid cyflwyno cais o’r ansawdd gofynnol. Drwy gyhoeddi cyllid yn gynnar fel hyn a gosod disgwyliadau clir, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ceisio cynyddu’r tebygolrwydd o gael cais llwyddiannus.

Cyhoeddwyd ar 2 March 2017