Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb AS: “Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi diwydiant Cymru gyda chynllun hirdymor i’r dyfodol”

Mae camau radical i leihau costau ynni’n pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi diwydiant Cymru yn y ras fyd-eang, meddai Gweinidog Swyddfa Cymru Stephen Crabb AS heddiw (Iau 1 Mai 2014).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
fireworks

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru Stephen Crabb yn ymweld heddiw â gwaith dur Celsa UK ac yn cynnal yr ail gyfarfod i Ddiwydiannau Ynni-ddwys yng Nghaerdydd. Yn y cyfarfod fe drafodir mesurau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2014 i fynd i’r afael â chostau ynni i sectorau sy’n cynnwys gweithfeydd dur a diwydiannau cemegol.

Bydd y Gweinidog Crabb yn ymweld hefyd â Maes Awyr Caerdydd i drafod ‘Cronfa Cysylltedd Rhanbarthol’ £20 miliwn i’r Deyrnas Unedig gyfan a gyhoeddwyd yn y Gyllideb er mwyn annog cwmnïau awyrennau i ddechrau hedfan llwybrau newydd o feysydd awyr rhanbarthol. Bydd Mr Crabb yn cyfarfod â’r Prif Weithredwr Jon Horne a’r Cadeirydd, yr Arglwydd Rowe Beddoe, i drafod a allai’r maes awyr elwa ar y ffrwd ariannu hon.

Wrth siarad cyn y cyfarfod i Ddiwydiannau Ynni-ddwys, dywedodd y Gweinidog Crabb:

“Rydym yn benderfynol y dylai hyn fod yn adferiad economaidd parhaus a chytbwys. Mae lleihau costau ynni’n gam pwysig i helpu ein gweithgynhyrchwyr i gystadlu mewn marchnadoedd byd-eang.

“Mae’r Pecyn Ynni Busnes £7 biliwn a gyhoeddwyd yn y Gyllideb wedi rhoi hwb i ymdrechion i sicrhau prisiau ynni mwy fforddiadwy, ac i helpu cwmnïau gweithgynhyrchu i beidio colli tir i gystadleuwyr. Ond mae angen inni wrando ar gwynion y Diwydiannau Ynni-ddwys. Mae cyfran fwy o’r cwmnïau hyn yn economi Cymru nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.”

Dyma’r ail gyfarfod o’i fath i’w gynnal gan y Gweinidog Crabb yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd y cyntaf ym mis Mai 2013 gyda’r Gweinidog Ynni a Diwydiant Michael Fallon AS. Yn y cyfarfod hwnnw holwyd barn sectorau mwyaf ynni-ddwys Cymru ynghylch sut y gallai’r Llywodraeth gynorthwyo gyda chostau ynni yn y cyfnod cyn Cyllideb 2014.

Wrth siarad cyn yr ymweliad â Gwaith Dur Celsa UK dywedodd y Gweinidog Crabb:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fy ail ymweliad â gwaith dur Celsa UK i glywed am y modd y gall y pecyn cymorth newydd a gyhoeddwyd yn y Gyllideb fod o fudd i’w fusnes gweithgynhyrchu dur ac i economi Cymru’n fwy cyffredinol.

“Mae’n dda gweld pethau’n symud ymlaen ac rwy’n dal ar dân eisiau cefnogi gweithgynhyrchwyr Cymru i gadw tir gyda’u cystadleuwyr ledled y byd. Ond rwy’n awyddus i glywed beth mwy y gellir ei wneud gyda’r heriau sy’n wynebu’r diwydiannau ynni-ddwys.”

Bydd Mr Crabb, a ymwelodd â’r cwmni ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2013, yn cwrdd â’r Rheolwr Cyffredinol Luis Sanz a James Ellis, Pennaeth Adnoddau Dynol, ac yn cael ei dywys o amgylch y Sied Doddi.

Dyma oedd gan Reolwr Cyffredinol Celsa UK Luis Sanz i’w ddweud am yr ymweliad:

“Mae’n bleser croesawu’r Gweinidog i’n safle yng Nghaerdydd. Rydym wedi mwynhau perthynas waith dda gydag ef o ran deall yr effaith a gaiff costau ynni cynyddol ar Ddiwydiannau Ynni-ddwys yn y Deyrnas Unedig.

“Mae Celsa’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd y Canghellor yn cyflwyno gwerth £7 biliwn o fesurau lliniaru. Mae’n cydnabod yr effaith y mae trethiant ynni’n ei chael ar Ddiwydiannau Ynni-ddwys. Rydym yn croesawu camau a gymerir i liniaru hyn, yn enwedig y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, ac fe ddaliwn ati i weithio i sicrhau y cânt eu gweithredu’n fuan.

“Mae anghyfartaledd o hyd rhwng prisiau ynni’r Deyrnas Unedig a’r marchnadoedd Ewropeaidd. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r Gweinidog Crabb i drafod effeithiau posib y Pecyn Ynni Busnes o ran creu maes chwarae teg mewn prisiau ynni i sector gweithgynhyrchu’r Deyrnas Unedig,” meddai Mr Sanz.

Disgwylir i’r mesurau ym Mhecyn Ynni Busnes y Gyllideb arbed hyd at £240 miliwn i fusnesau Cymru rhwng 2016-17 a 2018-19.

Wrth siarad cyn yr ymweliad â Maes Awyr Caerdydd dywedodd y Gweinidog Crabb:

“Mae gan feysydd awyr rhanbarthol rôl gryf i’w chyflawni o ran ateb y galw am deithio awyr yn y Deyrnas Unedig. Mae Maes Awyr Caerdydd wedi gweld cynnydd yn niferoedd teithwyr ac rwy’n awyddus i drafod ei botensial i wneud cais am gymorth gan y Gronfa Cysylltedd Awyr Rhanbarthol i sicrhau twf pellach. Mae sicrhau llwybrau newydd yn allweddol i lwyddiant Maes Awyr Caerdydd.”

Nodiadau i olygyddion:

Am fwy o wybodaeth, cysyllter â Tracey Edginton ar 020 7270 1362/07775 012 425/tracey.edginton@walesoffice.gsi.gov.uk

Am fwy o wybodaeth am gyhoeddiadau Cyllideb 2014

Gwybodaeth bellach:

Celsa Steel UK

  • Celsa Steel UK yw’r cwmni cynhyrchu bariau dur cyfnerthu mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae ei safle yng Nghaerdydd yn cynhyrchu a chyflenwi dros filiwn o dunelli o gynnyrch gorffenedig i farchnadoedd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon bob blwyddyn, ac mae’n cynnal mwy na 3,500 o swyddi yn uniongyrchol ac anuniongyrchol yng Nghymru.

Dyma rai o fesurau Cyllideb 2014 i gefnogi busnes:

  • Caiff y lwfans buddsoddi blynyddol ei ddyblu i £500,000, a’i estyn am flwyddyn arall hyd fis Rhagfyr 2015. Mae hyn yn golygu y gallai 99.8% o fusnesau beidio gorfod talu dim treth ar fuddsoddiad.
  • Cwtogwyd treth gorfforaeth 1% i 21%. Roedd y dreth yn 28% yn 2010 a bydd yn gostwng ymhellach i 20% yn Ebrill 2015, i fod y dreth gorfforaeth isaf yn yr G20. Caiff treth tanwydd ei rhewi eto.
  • Bydd Pecyn Ynni Busnes yn arbed hyd at £240 miliwn i fusnesau Cymru, yn enwedig rhai sy’n defnyddio llawer o ynni, rhwng 2016-17 a 2018-19.
  • Gallai bron i 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru elwa ar becyn i’w helpu i gael cyllid. Bydd y llywodraeth yn ymgynghori ynghylch ffyrdd gwell i sicrhau darparwyr credyd amgen i fusnesau bach a chanolig sydd wedi methu cael benthyciad.

Disgwylir i’r mesurau sydd ym Mhecyn Ynni Busnes y Gyllideb arbed hyd at £240 miliwn i fusnesau Cymru rhwng 2016-17 a 2018-19. Bydd busnesau yng Nghymru’n elwa hefyd o ryw £230 miliwn trwy gamau a gymerir i ostwng Terfyn Isaf Pris Carbon. Dyma rai o fesurau’r Pecyn Cynnal Ynni Busnes:

  • Capio’r gyfradd Cynnal Prisiau Carbon ar £18.00 o 2016-17 hyd ddiwedd y ddegawd.
  • Estyn yr iawndal i Ddiwydiannau Ynni-ddwys am gost Terfyn Isaf Pris Carbon hyd 2018/19.
  • Cyflwyno iawndal i Ddiwydiannau Ynni-ddwys am gostau’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy a’r Tariffau Cyflenwi Trydan o 2016/17 hyd 2018/19.
  • Cyflwyno, o 2015/16, eithriad i Derfyn Isaf Pris Carbon ar gyfer tanwyddau a ddefnyddir i gynhyrchu trydan o ansawdd da gan weithfeydd Gwres a Phŵer Cyfunedig i’w dibenion eu hunain.
  • Mesurau newydd i beri bod marchnadoedd ynni’n fwy cystadleuol i fusnesau bach iawn, a chymorth iddynt ddefnyddio mesuryddion clyfar i gwtogi eu biliau.

Yn 2013, cyflwynodd y llywodraeth fesurau eraill i gefnogi diwydiannau ynni-ddwys, gan gynnwys:

  • Eithrio diwydiannau ynni-ddwys rhag costau ychwanegol a gyfyd o Gontractau Gwahaniaeth y Tariffau Cyflenwi Trydan, yn amodol ar y gyfraith ynghylch cymorth gwladwriaethol;
  • Cyflwyno estyniad ardoll newid hinsawdd i brosesau metelegol a mwynegol o 1 Ebrill 2014; a
  • Cyflwyno iawndal am y costau allyriadau anuniongyrchol oherwydd System Masnachu Allyriadau’r Undeb Ewropeaidd a’r peirianwaith cynnal pris carbon, yn amodol ar gymorth gwladwriaethol.
Cyhoeddwyd ar 1 May 2014