Stori newyddion

Dogfennau cefnogol gyda cheisiadau

Pa ddogfennau cefnogol i'w cynnwys gyda'ch ceisiadau.

O ddydd Llun 30 Mehefin ni fydd angen i chi anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol atom mwyach wrth wneud cais trwy’r post i newid cofrestr eiddo cofrestredig.

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau y bydd angen i chi eu hanfon atom gyda ffurflenni cais y Gofrestrfa Tir. Gallwch anfon dogfennau gwreiddiol atom trwy’r post o hyd, ond ar ôl inni sganio copi, byddwn yn dinistrio’r rhain.

Mae’r diweddariad i’n polisi yn berthnasol dim ond i dir ac eiddo sydd eisoes wedi’u cofrestru. Nid yw’n berthnasol i Gofrestriadau Cyntaf. Gyda Chofrestriadau Cyntaf bydd angen i ni weld dogfennau gwreiddiol ar gyfer y math hwn o geisiadau o hyd.

Mae’r cyfarwyddyd hwn nawr yn berthnasol pan fyddwch yn anfon cais atom trwy un o’n sianeli electronig a thrwy’r post. Os ydych yn cyflwyno ceisiadau trwy ein Gwasanaeth Cofrestru Dogfen electronig (e-DRS), dim ond ar gyfer cofrestru y caiff copïau ardystiedig eu derbyn eisoes.

I gael manylion llawn, ewch i’n cwestiynau ac atebion manwl.

I gael rhagor o wybodaeth am e-DRS, ewch i’n tudalennau gwe.

Cyhoeddwyd ar 30 June 2014