Datganiad i'r wasg

Yr wythnos hon rydym yn dod ag Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU i Gymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb yn son yn Wales on Sunday am Uwchgynhadledd Buddsoddi y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd dros 150 o arweinwyr busnes byd-eang ac o’r DU, o rai o’r cwmnïau mwyaf llwyddiannus yn y byd, yn gweld beth sy’n gwneud Cymru’n wlad mor wych i fuddsoddi ynddi.

Byddant yn gweld bod ein gwlad yn gartref i glwstwr cynyddol o gwmnïau technolegol o’r radd flaenaf, sydd ar flaen y gad o ran gwaith ymchwil a datblygiadau rhyngwladol.

Byddwn yn arddangos rhai o’r datblygiadau arloesol mwyaf blaengar yn y byd – cynhyrchion a ddechreuodd yng Nghymru, a ddatblygwyd yng Nghymru ac a weithgynhyrchwyd yng Nghymru.

Mae’r dechnoleg sy’n gweithio dros hanner ffonau symudol y byd yn cael ei chreu yn ne Cymru; mae Raspberry Pi, y cyfrifiadur maint cerdyn credyd a wneir yng Nghymru, wedi bod yn llwyddiant allforio; ac mae adeiladau’r dyfodol, sy’n gallu cynhyrchu eu hynni eu hunain, yn cael eu harloesi yng Nghymru.

Rwyf am i arweinwyr busnes y byd weld bod Cymru’n wlad uchelgeisiol sy’n awchu am lwyddiant, gydag economi ddeinamig a blaengar.

Ac rwyf am iddynt adael heb unrhyw amheuon am ein hysbryd entrepreneuraidd, ein dyfeisgarwch, ein talent am arloesi a sgiliau ein gweithlu.

Mae gan y Llywodraeth hon gynllun economaidd hirdymor i gefnogi busnesau Cymru a chreu’r amodau perffaith ar gyfer twf. Rydym wedi lleihau’r diffyg, torri’r Dreth Gorfforaeth a lleihau biwrocratiaeth, i wneud ein heconomi’n fwy cystadleuol ac yn fwy deniadol i fewnfuddsoddi ynddi.

Mae busnesau wedi ymateb drwy fuddsoddi a chreu swyddi i greu economi gryfach, fwy llwyddiannus yng Nghymru.

Mae eu penderfyniad a’u hyder wedi arwain at 8,000 o fusnesau newydd yn cael eu sefydlu bob blwyddyn yng Nghymru ac oddeutu 100,000 o swyddi newydd yn y sector preifat ers Ebrill 2010.

Mae allforion wedi cynyddu, mae rhagor o fusnesau bach a chanolig eu maint, ac mae mwy o fewnfuddsoddi o dramor nag erioed. Mae’r llwyddiannau hyn yn seiliau rhagorol i adeiladu arnynt, ond rwy’n gwybod bod mwy i’w wneud i sicrhau bod ein gwlad yn aros ar y llwybr iawn tuag at ffyniant economaidd.

Mae’r ddwy lywodraeth yng Nghymru am weithio gyda busnesau i sicrhau’r manteision hyn a sicrhau etifeddiaeth economaidd barhaol.

Ym mis Medi, fe wnaethom ddangos i’r byd beth rydym yn gallu ei gyflawni wrth weithio gyda’n gilydd, drwy gyflwyno Uwchgynhadledd NATO lwyddiannus. Roedd yn wych gweld Cymru’n serennu ar y llwyfan rhyngwladol ac ni allai ein proffil byd-eang fod yn uwch.

Felly ni fu erioed gwell amser i Gymru fanteisio ar uwchgynhadledd fuddsoddi ar y raddfa hon.

Dyna pam ein bod yn cynnal yr uwchgynhadledd hon, i harneisio’r llwyddiant a throi hynny’n swyddi a ffyniant er mwyn i bobl Cymru allu elwa o sicrwydd cael cyflog rheolaidd.

Nid yn unig mae busnesau Cymru’n magu enw da’n fyd-eang am dechnoleg, ond mae ein prifysgolion yn gwthio ffiniau cyflawniad deallusol ac mae ein busnesau’n defnyddio hyn yn fasnachol.

Bydd yr uwchgynhadledd yr wythnos hon yn anfon neges i’r byd ein bod yn wlad uchelgeisiol sydd ar agor i fusnes.

Rwyf am gael rhagor o entrepreneuriaid a rhagor o gwmnïau llwyddiannus yn buddsoddi yma – ac rwyf am i’n sector preifat dyfu gyda busnesau sy’n gwneud mwy, sy’n masnachu mwy, sy’n cyflogi mwy ac sy’n tyfu o flwyddyn i flwyddyn.

Cyhoeddwyd ar 17 November 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 November 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.