Datganiad i'r wasg

Stuart Andrew: “Mae sectorau bwyd, diod ac amaethyddiaeth Cymru yn ganolog i’n heconomi a’n diwylliant”

Gweinidog Llywodraeth y DU yn addo cefnogi ffermwyr a busnesau bwyd a diod ar ymweliad â Chanolbarth Cymru

Mae Gweinidog Llywodraeth y DU, Stuart Andrew, wedi bod yn trafod sut gall Llywodraeth y DU gefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru mewn cyfarfod ar faes Sioe Frenhinol Cymru. (8 Chwefror).

Gyda’r Gweinidog fydd y Gweinidog Gwladol dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, yr Anrhydeddus George Eustice AS yn anelu at adeiladu ar y cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid yn Sioe Frenhinol Cymru ac ar draws Cymru yn ystod yr haf.

Ar frig agenda’r Gweinidogion oedd sut gall Llywodraeth y DU gynnig rhagor o gefnogaeth i ffermwyr, cynhyrchwyr a’r diwydiant twristiaeth gwledig i sicrhau eu bod yn elwa o’r cyfleoedd a fydd yn codi wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Wnaeth Stuart Andrew hefyd ymweld â’r cwmni dŵr Cymreig llwyddiannus, Radnor Hills, sy’n cynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch dŵr ar gyfer llu o gleientiaid, gan gynnwys y diwydiant awyrennau. Eleni, bydd y cwmni yn Nhrefyclo, Powys, yn gosod ei wythfed llinell cynhyrchu er mwyn cynyddu’r capasiti i allu cynhyrchu tua 400 miliwn potel y flwyddyn, i allforio i wledydd gan gynnwys Malaysia, Awstralia a gwledydd eraill yn Ewrop.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU, Stuart Andrew:

Ers i mi gael fy mhenodi i’r rôl hon mae cryfder ac amrywiaeth sectorau bwyd, diod ac amaethyddiaeth Cymru wedi cael cryn argraff arnaf.

Mae Radnor Hills yn dangos y gorau o gynnyrch Cymru ar lefel ryngwladol, ar yr un pryd â darparu cyflogaeth sefydlog ym Mhowys.

Ond wrth i Brydain ddechrau gadael yr Undeb Ewropeaidd, dyma’r amser i fusnesau a chynhyrchwyr ehangu eu gorwelion ac allforio ymhellach. Mae Llywodraeth y DU yn gwbl gefnogol o ffermwyr a busnesau yng Nghymru wrth i’r broses hon fynd rhagddi, ac yn barod i wrando ar eu pryderon a chefnogi’r rheini sy’n gobeithio masnachu gyda marchnadoedd newydd tramor.

Dywedodd George Eustice, y Gweinidog Ffermio:

Rwyf wedi mwynhau gwrando ar syniadau a sylwadau pawb a oedd yn bresennol heddiw, a byddant yn bwysig wrth inni lunio a rhoi ystyriaeth i’n dulliau newydd.

Cyhoeddwyd ar 8 February 2018