Stori newyddion

Neges Dydd y Cofio

Stephen Crabb: Wrth i ni blygu pen mewn distawrwydd, down at ein gilydd fel cenedl i ddangos nad ydym wedi anghofio am eu hymroddiad, ac na fyddwn byth yn anghofio eu haberth.

Ar Sul y Cofio, safwn gyda’n gilydd fel cenedl i dalu teyrnged i genedlaethau o ddynion a menywod y lluoedd arfog a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, ac wrth amddiffyn ein rhyddid a’n democratiaeth.

Ar adeg fel hon, byddwn yn camu o’n bywydau prysur, ac yn oedi i feddwl cyn mwynhau’r rhyddid a’r cyfleoedd rydym wedi’u cael ar draul colli bywydau, er mwyn dweud, “diolch” a “cofiwn amdanoch.

Yng Nghymru, mae gennym hanes milwrol hir ac anrhydeddus. Gall pob un ohonom ymfalchïo ym mhroffesiynoldeb llwyr ac yn ymroddiad di-ildio dynion a menywod ein lluoedd arfog. Bydd pobl Cymru yn cofio’n anrhydeddus, gyda pharch a gwerthfawrogiad, am y rheini a aberthodd eu bywydau drosom.

Byddwn hefyd yn myfyrio ynghylch y rhyfeloedd sy’n digwydd ar hyn o bryd ar draws y byd, a’r aberthau dyddiol gan y rheini sy’n parhau i amddiffyn ein gwerthoedd a’n ffordd o fyw. Rydym yn meddwl amdanynt ac yn diolch iddynt, yn ogystal ag yn meddwl am eu hanwyliaid, sy’n gweld eu colli’n fawr ond yn eu cefnogi bob cam o’r ffordd.

Wrth i ni blygu pen mewn distawrwydd, down at ein gilydd fel cenedl i ddangos nad ydym wedi anghofio am eu hymroddiad, ac na fyddwn byth yn anghofio eu haberth.

Cyhoeddwyd ar 8 November 2015