Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb yn croesawu tîm gweinidogion Swyddfa Cymru

Ysgrifennydd Cymru: “Mae gennym dîm cryf a phrofiadol a fydd yn sicrhau’r gorau i bobl Cymru.”

Wales Office Ministers

Heddiw (14 Mai), croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb y ffaith fod yr Arglwydd Nick Bourne o Aberystwyth wedi’i benodi ac Alun Cairns AS wedi’i ailbenodi i dîm gweinidogion Swyddfa Cymru.

Rhoddodd Mr Crabb deyrnged i’r Farwnes Jenny Randerson am ei gwaith yn Swyddfa Cymru hefyd.

Mae’r Arglwydd Bourne yn ymuno â Swyddfa Cymru fel Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol - swydd a rennir â’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd. Mae Alun Cairns yn dychwelyd fel Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol.

Dywedodd Mr Crabb:

Rwy’n falch o groesawu Nick i Swyddfa Cymru a bod Alun yn dychwelyd i’n tîm.

Dydy Swyddfa Cymru erioed wedi cael dau weinidog gyda chymaint o brofiad o’r Cynulliad Cenedlaethol o’r blaen. Hefyd, mae gan y ddau hanes rhagorol o sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed yn San Steffan a thu hwnt.

Bydd y tîm cryf hwn yn Swyddfa Cymru yn bwrw ymlaen â chynllun uchelgeisiol y llywodraeth ar gyfer Cymru.

Dywedodd Alun Cairns:

Mae’n wych bod yn ôl yn Swyddfa Cymru.

Mae Cymru’n wynebu dyfodol disglair ac rwy’n benderfynol o adeiladu ar ein llwyddiannau a gwneud yn fawr o bob cyfle i’r bobl sy’n gweithio’n galed ar hyd a lled ein gwlad.

Dywed yr Arglwydd Bourne:

Mae’n fraint ac yn anrhydedd aruthrol cael ymuno â thîm gweinidogion Swyddfa Cymru.

Mae gennym amserlen brysur a chyffrous iawn o’n blaenau ac rwy’n edrych ymlaen at wneud fy rhan wrth helpu i sicrhau bod Cymru’n wlad fwy ffyniannus a llwyddiannus.

Wrth roi teyrnged i’r Farwnes Randerson, ychwanegodd Stephen Crabb:

Hoffwn ddiolch i’r Farwnes Randerson am ei gwaith yn Swyddfa Cymru – roedd hi’n weinidog ac yn gydweithiwr gwych.

Roedd ei brwdfrydedd dros wasanaeth cyhoeddus heb ei ail, yn ogystal â’i hymrwymiad i sicrhau bod Cymru’n lle gwell i fyw a gweithio ynddo.

Cyhoeddwyd ar 14 May 2015