Stori newyddion

Stephen Crabb "Wnaiff y byd ddim aros am Gymru"

Araith yr Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb ar ddatganoli i Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd

Mewn araith yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd fore dydd Iau, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn dweud sut mae rhaglen ddatganoli radical y Llywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig yn her i Gymru i harneisio’r cyfleoedd ar gyfer arloesi a thwf.

Disgwylir iddo ddweud:

Mae Cymru eisoes yn cystadlu â’r goreuon ar y llwyfan byd-eang ac, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Caerdydd wedi atgoffa’r byd unwaith eto pam y mae’n brifddinas mor gyffrous a bywiog i ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Ond, yn y dyfodol, byddwn yn gorfod parhau i wneud cynnydd er mwyn cystadlu ag economïau sy’n tyfu’n gyflym dramor yn ogystal ag â rhannau eraill o’r DU.

Wythnos diwethaf, bu Arlywydd Tsieina ar ymweliad hanesyddol â Manceinion i gryfhau’r cysylltiadau rhwng Pwerdy’r Gogledd a Tsieina. Gwelodd arweinydd un o economïau mwyaf y byd ddinas lle mae’r arweinwyr dinesig wedi manteisio ar y cyfle i gael rhagor o bwerau a datganoli i ddylanwadu ar dŵf eu dinas yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae gan Gymru gystadleuydd newydd yn y DU.

Ar draws y DU, rydym yn ysgogi twf economaidd drwy wthio pŵer am i lawr – datganoli’r broses o wneud penderfyniadau ac ategu hynny gyda phwerau economaidd ac ariannol go iawn i harneisio arloesedd.

Bydd yn mynd yn ei flaen i ddweud bod gan Gaerdydd y potensial i ddod yn un o ddinasoedd mwyaf deinamig a bywiog Ewrop yn y degawdau i ddod.

Yma yng Nghymru mae gennym brifddinas ifanc sy’n arloesol ac yn entrepreneuraidd. Mae wedi’i lleoli yng nghanol dinas-ranbarth sy’n gartref i bron i hanner poblogaeth Cymru a rhagwelir y bydd yn tyfu 26 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf.

Mae Caerdydd ar drothwy rhywbeth gwych. Gall ein prifddinas ddefnyddio’i safle fel heriwr sy’n tyfu’n gyflym i ddod yn un o’r mannau gorau yn y byd i fyw, i ymweld â hi, i astudio ac i wneud busnes.

Ond mae perygl gwirioneddol bod potensial economaidd Cymru yn cael ei barlysu gan ddadleuon cyfansoddiadol diddiwedd. Ni fydd treulio blynyddoedd wedi’n clymu i ddadleuon maith am fanylion datganoli yn ein helpu i fynd i’r afael â’r her cynhyrchiant na’r bwlch sgiliau.

Felly, dyma gyfle gwleidyddion yng Nghymru i sicrhau mai ein prif flaenoriaeth yw dyfodol economaidd ein gwlad - a chydnabod bod yn rhaid i ddatganoli orwedd ochr yn ochr â gweledigaeth economaidd glir. Ni all ceisio rhagor o bwerau fod yn ddiben ynddo’i hun.

Oherwydd mae gwledydd yn edrych at allan; mae dinasoedd yn ailddiffinio’u rôl; mae busnesau yn arloesi; ac mae cwmnïau’n masnachu ac yn buddsoddi mewn sawl gwlad 24 awr y dydd.

Rydym yn cystadlu yn yr unfed ganrif ar hugain. “A wnaiff y byd ddim aros am Gymru

Cyhoeddwyd ar 29 October 2015