Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb: “Datganiad yr Hydref yn cyflawni dros Gymru”

Datganiad yr Hydref y Canghellor yn darparu hwb mawr i bobl a busnesau Cymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (3 Rhagfyr) croesawodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb Ddatganiad yr Hydref y Canghellor fel hwb mawr i Gymru - gan gynorthwyo i greu swyddi, gyrru twf a denu buddsoddiad.

Dywedodd Mr Crabb y byddai cynlluniau’r Canghellor yn darparu cymorth gwirioneddol i bobl, busnesau a chymunedau lleol sy’n gweithio’n galed – gan adeiladu economi gryfach ar draws Cymru.

Mae’r mesurau yn Natganiad yr Hydref i helpu Cymru yn cynnwys: diwygio Treth Stamp yn sylweddol i helpu pobl sydd eisiau cael blaen eu troed ar yr ysgol dai; eithrio plant rhag Toll Teithwyr Awyr ar y teithiau awyr rhataf; cael gwared â chyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr yng nghyswllt prentisiaid dan 25 oed; cynyddu’r lwfans personol a datganoli trethi busnes yn llawn i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Heddiw mae’r Canghellor wedi cyflwyno pecyn grymus o fesurau i yrru economi Cymru ymlaen a darparu mwy o sicrwydd economaidd ar gyfer pobl sy’n gweithio’n galed ledled Cymru – mae Datganiad yr Hydref yn cyflawni dros Gymru.

Diolch i’r penderfyniadau anodd a wnaed gennym yn y gorffennol, mae economi’r DU yn tyfu’n gyflymach nac unrhyw wlad ddatblygedig fawr arall. Bu diweithdra’n gostwng yng Nghymru ers dwy flynedd ac mae swyddi’n cael eu creu ar draws y wlad mewn amrywiaeth o ddiwydiannau.

Gwyddom fod mwy i’w wneud, a dyna pam y mae’n rhaid i ni ddal ati. Dim ond wrth lynu at ein cynllun economaidd hirdymor y byddwn yn sicrhau dyfodol gwell a mwy sicr yn ariannol ar gyfer Cymru a’r DU gyfan.

Rwy’n benderfynol ein bod am barhau i wneud y penderfyniadau iawn ar gyfer economi Cymru i sicrhau dyfodol gwell a mwy ffyniannus ar gyfer pobl Cymru.

Mae’r mesurau i helpu Cymru yn Natganiad yr Hydref yn cynnwys:

  • Diwygio Treth Stamp yn sylweddol ar brynu eiddo preswyl er mwyn ei gwneud yn fwy effeithlon ac yn decach, gan helpu pobl sydd eisiau cael blaen eu troed ar yr ysgol dai, neu symud i fyny’r ysgol. Dan y strwythur newydd, bydd trethi’n berthnasol i gyfran y pryniant sydd o fewn pob band. Byddai dros 99% o brynwyr tai yng Nghymru wedi talu llai neu yr un lefel o Dreth Stamp pe byddai’r strwythur newydd hwn wedi bod yn ei le yn 2013/14.
  • Eithrio plant dan 12 oed rhag Toll Teithwyr Awyr o 1 Mai 2015, ac o 1 Mawrth 2016 yng nghyswllt plant dan 16 oed. Yng Nghymru, bydd yr eithriad yn golygu arbediad o £26 ar deithiau byr rhad a £142 ar deithiau hir i deulu â dau o blant yn teithio o Faes Awyr Caerdydd.
  • Diddymu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr ar gyfer prentisiaid dan 25 oed – gallai hyn fod o fudd i gyflogwyr oddeutu 22,000 o brentisiaid yng Nghymru. Bydd hyn yn ei gwneud dros £500 y flwyddyn yn rhatach i gyflogi prentis sy’n ennill £12,000 a thros £1,000 y flwyddyn yn rhatach i gyflogi prentis sy’n ennill £16,000.
  • Cynnydd yn y lwfans personol o £10,000 i £10,600 o 2015/16. Bydd oddeutu 20,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu heithrio’n llwyr rhag talu treth incwm a bydd 1.1 miliwn o bobl eraill ar eu hennill o £94.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £123 miliwn o gyllid ychwanegol hyd 2015/16. Mae hyn yn golygu y bydd cyfanswm y grym gwario ychwanegol a ganiatawyd i Lywodraeth Cymru ers adolygiad gwariant 2010 dros £1.2 biliwn.
  • Datganoli trethi busnes yn llawn, a fydd yn cynyddu hunanreolaeth ac atebolrwydd Llywodraeth Cymru a rhoi’r arfau iddynt wneud economi Cymru’n fwy deinamig. Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno ar setliad ariannol a fydd yn dangos £98.5 miliwn o gynnydd yn nyraniadau Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â’r Gyfradd Ddidynnu Arferol (NDR) yn dilyn datganoli.
  • O fis Ebrill 2015 bydd elusennau chwilio ac achub ac ambiwlansys awyr yn gymwys i wneud cais am ad-daliad TAW. Yng Nghymru, bydd y cynllun ad-daliad TAW ar gael i o leiaf 15 elusen chwilio ac achub ac elusennau ambiwlans awyr sy’n gwasanaethu’r ardal. Bydd elusennau Bad Achub yng Nghymru hefyd yn cael budd o’r cynllun. Mae ymdrechion yr elusennau hyn yn helpu i gadw’r rhai sy’n ymweld â’r mynyddoedd a’r arfordir yn ddiogel.
  • Bydd y rhaglen Dinasoedd Cysylltiad Cyflym yn cael ei hymestyn. Mae’r cynllun ar gael ar hyn o bryd mewn 22 o ddinasoedd ledled y wlad gyda’r potensial ar gyfer 28 o ddinasoedd ychwanegol o fis Ebrill 2015. Yng Nghymru, bydd y cynlluniau yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn cael eu hymestyn am 12 mis hyd fis Mawrth 2016 ac yn parhau’n agored i’r holl fusnesau bach a chanolig, elusennau, mentrau cymdeithasol a masnachwyr unigol yn y dinasoedd. Mae oddeutu 279 o dalebau band eang i fusnesau wedi eu cyflwyno hyd yma.
  • Bydd y Lwfans Cyflogaeth sy’n darparu gostyngiad o hyd at £2,000 i gyflogwyr ar eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael ei ymestyn o Ebrill 2015 i gynnwys unigolion sy’n cyflogi gweithwyr cefnogi a gofal ar eu cyfer eu hunain neu aelod o’u teulu. Mae oddeutu 35,000 o gyflogwyr wedi cael budd o’r lwfans cyflogaeth yn y chwe mis cyntaf ers iddo gael ei lansio ym mis Ebrill. Mae hyn yn cynrychioli cyfradd o 72% yn ei ddefnyddio.
  • £60m ychwanegol ar gyfer y Cronfeydd Cenedlaethol ‘Mynediad i Bawb’ sy’n darparu cyllid i wella mynediad mewn gorsafoedd rheilffordd. Mae’r gronfa’n gymwys i orsafoedd yng Nghymru a Lloegr.
Cyhoeddwyd ar 3 December 2014