Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb AS yn cael ei ailbenodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Stephen Crabb: “Byddaf yn llais cryf wrth fwrdd y Cabinet ac yn parhau i sicrhau llwyddiannau i Gymru."

Welsh Secretary Stephen Crabb

Heddiw (11 Mai), ailbenodwyd Stephen Crabb yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac fe addawodd yn syth y byddai’n defnyddio’i ddylanwad yn y Cabinet i sicrhau mwy o lwyddiannau i Gymru.

Ac yntau’n siarad ar ôl cyfarfod â’r Prif Weinidog yn 10 Stryd Downing, dywedodd Stephen Crabb:

Mae’r canlyniadau anhygoel a welsom yn oriau mân fore Gwener yn ategu’r hyn rwyf wedi bod yn ei glywed gan bobl ledled Cymru. Mae pobl yn dechrau teimlo buddion adferiad economaidd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi dangos y gallwn greu’r amodau ar gyfer twf economaidd a rhoi Cymru ar y map drwy ddod â digwyddiadau byd-eang mawr i’n gwlad. Mae gennym bellach gyfle gwych i siapio’r dyfodol a sicrhau bod Cymru yn lle gwell byth i fyw a gweithio ynddo.

Mae pobl wedi dangos eu bod yn rhannu fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru - gwlad uchelgeisiol wedi’i chodi ar sylfeini economaidd cadarn. Ein gwaith o hyn ymlaen fydd adnewyddu’r ymdeimlad o degwch yn ein cymdeithas, sicrhau bod yr adferiad economaidd yn cyrraedd pob rhan o Gymru a chryfhau ein Teyrnas Unedig.

Mae’n fraint cael bob yn rhan o hyn drwy fod yn llais cryf wrth fwrdd y Cabinet a pharhau i sicrhau llwyddiannau i Gymru.

Cyhoeddwyd ar 11 May 2015