Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb yn nodi cyfraniad cyn-filwyr Cymru yng Nglaniad Normandy

Dyfarnu’r Légion d’Honneur i 12 o gyn-filwyr o Gymru

Legion d'honneur

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb wedi mynychu seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, lle wnaeth 12 o gyn-filwyr o Gymru yn derbyn yr anrhydedd uchaf y gellir ei rhoi yn Ffrainc – y Légion d’Honneur.

Mae’r anrhydedd yn cydnabod gweithredoedd anhunanol a dewr, ac agwedd benderfynol yr holl gyn-filwyr a fu’n rhan o Laniad Normandy, yn ogystal â’r ymgyrchoedd ehangach i ryddhau Ffrainc yn 1944.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Rydw i’n hynod o falch o gael mynychu’r seremoni arbennig hon heddiw.

Dyma ddynion gwych a fu’n eithriadol o ddewr a phenderfynol yn yr ymgais i ryddhau Ffrainc. Nawr, maen nhw’n cael lle haeddiannol ymhlith criw arbennig o gyn-filwyr dewr sydd wedi cael yr anrhydedd uchaf y gellir ei chael yn Ffrainc.

Sefydlwyd y Légion d’Honneur gan Napoleon Bonaparte yn 1802 a chaiff ei dyfarnu i gydnabod rhinweddau milwrol a sifil.

Cyhoeddwyd ar 28 January 2016