Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb: Cyfle Cymru i ddisgleirio yn y byd chwaraeon

Mae'r penwythnos pwysig i dimau rygbi a phêl-droed Cymru ar fin cyrraedd

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi dweud mai heddiw yw cyfle Cymru i ddisgleirio cyn yr hyn a allai fod yn benwythnos pwysig o ddathlu chwaraeon yng Nghymru (dydd Sadwrn 10 Hydref).

Yng Nghwpan Rygbi’r Byd, bydd dynion Warren Gatland yn wynebu Awstralia, ac yn ceisio sicrhau buddugoliaeth er mwyn cyrraedd y brig yn eu grŵp a sicrhau gêm haws yn yr wyth olaf.

Yn y cyfamser, mae tîm pêl-droed Chris Coleman wedi teithio i Bosnia-Herzegovina ar gyfer y gêm ragbrofol olaf ond un ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop. Bydd un pwynt yn sicrhau lle i’r tîm mewn prif dwrnamaint am y tro cyntaf ers 1958.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae dydd Sadwrn yn argoeli i fod yn wych, nid yn unig i’r Cymry sy’n cynrychioli eu gwlad ar y caeau, ond i’w cefnogwyr ledled y byd hefyd.

Gallwn fod yn falch o’r hyn mae’r chwaraewyr hyn wedi’i gyflawni. Gall llwyddiant Cymru ar y lefel uchaf ysbrydoli ein cenhedlaeth iau i weithio’n galed i gyrraedd eu nodau.

Rwy’n edrych ymlaen at weld y wlad yn dod at ei gilydd ddydd Sadwrn, i gefnogi ein timau cenedlaethol. Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod cyffrous o gystadlu.

Cyhoeddwyd ar 10 October 2015