Stori newyddion

Datganiad ar ran y trydydd ar ddeg Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

Cyfarfu y trydydd ar ddeg Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 22 Mai 2025.

Ceisiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, yn ei rôl fel Cadeirydd y Bwrdd Pontio gymeradwyaeth gan y Bwrdd ar gyfer tri phrosiect adfywio, a fydd yn cael eu cefnogi gyda dros £21.2 miliwn o gyllid y Bwrdd Pontio. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys:

  • Cyfleuster Cynhyrchu Uwch Weithgynhyrchu / Canolfan Ragoriaeth Sero Net Genedlaethol
  • Ailddatblygu adeiladau busnes yn Metal Box a Chanolfan Fusnes Sandfields

Yn dilyn rhyddhau arian heddiw, dyma’r chweched cyhoeddiad o gronfa Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot Llywodraeth y DU gwerth £80 miliwn a dylai gefnogi dros 270 o swyddi ac ychwanegu cyfanswm o dros £119 miliwn o Werth Ychwanegol Gros i’r economi leol dros y degawd nesaf. Mae’r buddsoddiad mawr diweddaraf hwn yn golygu bod mwy na £70 miliwn wedi’i gyhoeddi gan y Bwrdd Pontio yn ystod y naw mis diwethaf.  

Mae buddsoddiad gan y Bwrdd Pontio yn ategu gweithrediad Llywodraeth y DU i sicrhau cytundebau masnach newydd gyda’r Unol Daleithiau ac India, gan gynnwys ceisio cytundeb i ddileu tariffau ar gynhyrchion dur craidd a fewnforiwyd i’r Unol Daleithiau. Bydd hyn yn diogelu gwerth degau o filiynau o bunnoedd o allforion dur o Gymru bob blwyddyn.

Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariadau hefyd ar:

  • Raglen datgarboneiddio Tata Steel UK;
  • Cynlluniau’r Adran Busnes a Masnach ar gyfer strategaeth ddur;
  • Ymyriadau iechyd meddwl a lles;
  • Cyllid y Bwrdd Pontio sydd eisoes wedi’i gyhoeddi, gan gynnwys ceisiadau a dderbyniwyd am gronfa y Gadwyn Gyflenwi, a chefnogaeth a ddarperir gan y gronfa Cyflogaeth a Sgiliau.

Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys: Y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifenydd Gwladol Cymru; Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru; Cynghorydd Alun Llewelyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Frances O’Brien, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Stephen Kinnock, AS ar gyfer Aberafan Maesteg; David Rees, AS ar gyfer Aberafan; Tom Giffard, AS ar gyfer rhanbarth Gorllewin De Cymru; Anne Jessopp CBE a Katherine Bennett CBE, aelodau annibynnol o’r Bwrdd; Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol Dur a Metelau, Undeb Cymunedol; Tom Hoyles, Swyddog Gwleidyddiaeth, y Wasg ac Ymchwil, GMB Cymru a Jason Bartlett Swyddog Rhanbarthol Unite the Union Wales.

-diwedd-

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Mai 2025