Datganiad i'r wasg

Datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y digwyddiad Celsa Steel

Mae Stephen Crabb yn ymateb i’r adroddiadau am ffrwydrad yn y gwaith dur yng Nghaerdydd

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rydyn ni’n meddwl am y gweithwyr sydd ynghlwm wrth y ffrwydrad honedig yn safle Celsa, eu teuluoedd a’r gwasanaethau brys sydd yno.

Rydyn ni’n dal i ddysgu’n union beth sydd wedi digwydd. Ond yn y cyfamser mae Swyddfa Cymru wedi cysylltu â Celsa i gynnig unrhyw help.

Mae Celsa yn rhan bwysig o dirwedd ddiwydiannol Cymru ac rwyf wedi ymweld â’r safle droeon. Roedd fy ymwelid diweddaraf â’r gwaith ym mis Medi. Rwyf yn cael diweddariadau rheolaidd gan y gwasanaethau brys ac rwy’n gobeithio y bydd modd achub pawb yn ddiogel.

Cyhoeddwyd ar 18 November 2015