Datganiad i'r wasg

Datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ddamwain hofrennydd yn Eryri

Alun Cairns: Mae fy meddyliau a fy nghydymdeimlad llwyraf yn mynd i deuluoedd anffodusion y ddamwain

Mae fy meddyliau a fy nghydymdeimlad llwyraf yn mynd i deuluoedd anffodusion y ddamwain hofrennydd yn Eryri.

Rwyf wedi siarad heddiw â Phrif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru i gynnig cefnogaeth lawn Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r ymchwiliad.

Mae’r gwasanaethau brys a’r gweithwyr achub mynydd sydd wedi bod yn rhan o’r tîm chwilio, achub a symud wedi gwneud eu gwaith dan amgylchiadau hynod o anodd. Rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am fod mor benderfynol ac ymroddedig, ac i’r rhai sy’n rhoi cymorth i’r teuluoedd yn ystod cyfnod anodd iawn.

Gwaith heriol fydd symud y gweddillion. Dyma ofyn i amser a chyfle gael eu rhoi i’r awdurdodau sy’n ymchwilio er mwyn iddynt allu gwneud y gwaith pwysig hwn.

Cyhoeddwyd ar 30 March 2017