Dywedodd Alun Cairns: “Rwy’n falch iawn fy mod yn aros yn Swyddfa Cymru fel Ysgrifennydd Gwladol"
Dywedodd Alun Cairns: “Rwy’n falch iawn fy mod yn aros yn Swyddfa Cymru fel Ysgrifennydd Gwladol"

Dywedodd Alun Cairns: “Rwy’n falch iawn fy mod yn aros yn Swyddfa Cymru fel Ysgrifennydd Gwladol - mae presenoldeb Llywodraeth y DU yng Nghymru yn bwysicach nag erioed, a byddaf yn parhau i fod yn llais cryf dros ein gwlad yn y Cabinet newydd.
“Mae gennym becyn mawr o fesurau i’w cyflwyno, gan gynnwys Bil Cymru, a fydd yn sicrhau bod gan gwmnïau yng Nghymru’r cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd a’n bod ni’n cadw ein marchnad swyddi’n fywiog.
“Roedd llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn hwb enfawr a’n gwnaeth ni’n falch o fod yn Gymry. Rwyf eisiau rhoi’r teimlad hwnnw mewn potel a’n gwneud ni’n wlad sy’n ymfalchïo yn ein hentrepreneuriaid talentog, yn ein gweithlu medrus ac yn y nwyddau o ansawdd uchel rydym yn eu hallforio i bedwar ban byd.”