Datganiad i'r wasg

Neges Dydd Gŵyl Dewi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae Dydd Gŵyl Dewi bob amser wedi bod yn ddathliad lliwgar yng Nghymru wrth i’r wlad baratoi i nodi’r achlysur. Roedd arnaf eisiau anfon fy …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Dydd Gŵyl Dewi bob amser wedi bod yn ddathliad lliwgar yng Nghymru wrth i’r wlad baratoi i nodi’r achlysur. Roedd arnaf eisiau anfon fy nymuniadau gorau i bobl Cymru, sydd naill ai’n byw yma neu’n gweithio i ffwrdd, ac yn enwedig y rheini sy’n gwasanaethu ar ymgyrchoedd milwrol o amgylch y byd.

A minnau’n Gymraes, bydd gan Ddydd Gŵyl Dewi bob amser le arbennig yn fy nghalon gan ei fod yn gyfle i ni fyfyrio ynghylch pa mor bell rydym wedi dod. Yr adeg hon llynedd, roeddem yn cyhoeddi trydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Gaerdydd. Mae’r achos busnes dros drydaneiddio’r Cymoedd yn parhau ac yn rhywbeth rwyf yn frwd o’i blaid.

Mae buddiannau Cymru wrth galon y Llywodraeth hon ac rwyf yn falch o gynrychioli’r buddiannau hynny yn y Cabinet, yn y DU ac yn rhyngwladol.  Roeddwn wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi cynnal derbyniad yn Stryd Downing i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a bod nifer o westeion arbennig o Gymru yn gallu bod yno.

Mae datganoli yn bwysig i bob un ohonom ac roedd refferendwm y llynedd wedi rhoi dewis i Gymru ynghylch dyfodol datganoli.  Nawr rydym yn edrych ar ffyrdd o wneud y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn fwy atebol yn ariannol wrth i Gomisiwn Silk bwyso a mesur y materion hyn.

Wrth i 2012 fynd rhagddo, bydd gan Gymru hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddisgleirio.  Gydag wythnos dwristiaeth gyntaf Cymru yn mynd rhagddi, rwyf wedi cael y cyfle i weld a’m llygad fy hun rai o’r atyniadau sydd gennym ar garreg ein drws. Byddaf yn cefnogi unrhyw gais gan ddinas yng Nghymru i geisio bod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU yn 2017.

A gyda dathliadau Jiwbili Diemwnt Ei Mawrhydi y Frenhines a Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 Llundain eleni, rydym am wneud yn siŵr bod y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, yn ogystal a’r economi ehangach yng Nghymru, yn manteisio i’r eithaf ar y ffocws a fydd ar Gymru’n rhyngwladol fel na welwyd o’r blaen.

Er bod digon i edrych ymlaen ato, mae gennym nifer o sialensiau o’n blaenau hefyd - ac mae’n bwysig nodi bod ‘dau ben yn well nag un’.

Oes mae gan Gymru ddwy Lywodraeth, ond un nod sydd ganddynt - sicrhau’r gorau i Gymru.

Yn yr un modd ag erioed, ein nod yw torchi ein llewys a pharhau i gydweithio i gael Cymru yn ol i waith.

Mae’r ddwy set ddiweddaraf o ffigurau wedi dangos bod diweithdra yn disgyn a bod cyflogaeth yn codi. Ond rhaid i ni beidio a gorffwys ar ein rhwyfau, mae arnom eisiau helpu i wella’r dirwedd a’r amodau ar gyfer busnesau a sefydliadau yng Nghymru. Er mwyn gwneud hynny, byddwn yn parhau i annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda ni i sicrhau bod Cymru’n ffynnu.

Mae Cymru’n dal yn ddewis cystadleuol a deniadol ar gyfer buddsoddwyr domestig a rhyngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi ardaloedd menter ac mae Llywodraeth y DU yn darparu £57 miliwn o gyllid er mwyn gwella band eang ledled Cymru.  Rydym yn tyfu ac yn datblygu economi fodern.

Gadewch i ni feddwl am y Dydd Gŵyl Dewi hwn fel carreg filltir i edrych ymlaen at 2012 gydag egni ac optimistiaeth newydd.

Gadewch i ni roi ein gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu pryd bynnag y bo hynny’n bosibl ac achub ar bob cyfle i gydweithio er mwyn sicrhau dyfodol mwy ffyniannus i Gymru.

Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi gyd.

Cyhoeddwyd ar 29 February 2012