Datganiad i'r wasg

Neges Dydd Gŵyl Dewi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru

David Jones yn anfon ei ddymuniadau gorau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Welsh Flag

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd pobl ar hyd a lled Cymru yn dathlu nid yn unig bywyd ein nawddsant, ond hefyd beth mae bod yn Gymro neu Gymraes yn ei olygu.

Mae ein treftadaeth Gymreig unigryw yn deillio o’n hanes, ein traddodiadau ac - yn anad dim o bosib - ein hiaith hynafol. Ond rydym hefyd yn dystion i ddyfodiad Cymru newydd; cenedl hyderus, falch sydd â’i golygon at y byd.

Cymru, a buddiannau Cymreig, yw calon y Llywodraeth hon.

Gan atseinio geiriau Dewi, bydd y Llywodraeth hon yn ‘gwneud y pethau bychain’ angenrheidiol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein cynllun tymor-hir - sef adeiladu economi cryfach a mwy cystadleuol, a chymdeithas decach i bobl Cymru.

Ond rydym yn gwneud pethau mawr, hefyd. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyhoeddi buddsoddiad £250 miliwn mewn carchar newydd yn Wrecsam, cefnogi cyllid ar gyfer gorsaf pŵer niwclear Wylfa Newydd ac, yn fwy diweddar, ychwanegu £12 miliwn at ein buddsoddiad £57 miliwn gwreiddiol mewn band eang cyflym iawn.

Mae’r buddsoddiad hwn eisoes yn dwyn ffrwyth. Yng Nghymru, mae gennym fwy o bobl mewn gwaith ar hyn o bryd nag erioed o’r blaen, ac mae ein cyfradd diweithdra dan gyfartaledd y DU. Mae pob swydd newydd yn golygu mwy o sicrwydd i bobl Cymru, gan eu galluogi i droi eu golygon tua’r dyfodol gyda mwy o hyder.

Rydym wedi sefydlu mesurau a fydd yn lleihau costau byw pobl Cymru. Rydym wedi cynyddu trothwyon treth incwm a rhewi’r dreth danwydd er mwyn helpu pobl sy’n gweithio’n galed i gael sicrwydd ariannol.

Mae’r Llywodraeth hon hefyd yn sefyll cornel busnesau Cymru. Rydym yn creu’r amgylchedd priodol lle gall busnesau ffynnu drwy gefnogi busnesau bach a menter gyda gwell seilwaith a threthi swyddi llai.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld mwy o fusnesau’n llwyddo a ffynnu yma yng Nghymru ac, o ganlyniad, creu cyfleoedd cyflogaeth a chyfrannu tuag at fwy o dwf economaidd.

Yr wyf yn edrych ymlaen at nodi llwyddiannau busnesau Cymru mewn derbyniad Gŵyl Ddewi yn ddiweddarach yn yr wythnos yn Llundain, lle bydd nifer o westeion amlwg o gymuned fusnes Cymru’n bresennol.

Credaf yn gryf mai’r allwedd i ffyniant hirdymor Cymru fydd manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil marchnad fyd-eang gynyddol. Mae gennym eisoes rai busnesau Cymreig ardderchog yng Nghymru sy’n masnachu’n rhyngwladol, gan brofi bod Cymru heddiw’n gallu llwyddo yn y ras fyd-eang.

Yn ddiweddar, dychwelais o Oman a Malaysia, fel rhan o ymweliad i hyrwyddo’r Deyrnas Unedig fel cyrchfan fusnes. Ac mor ddiweddar ag wythnos diwethaf, croesewais ddirprwyaeth o Indonesia i Gymru i archwilio beth mwy y gellir ei wneud i gryfhau cysylltiadau busnes ac addysg rhwng Cymru ac Indonesia, er budd hirdymor economi Cymru.

Yn ddiweddarach yn y mis, gyda Masnach a Buddsoddi’r DU, byddaf yn cynnal derbyniad yng nghartref swyddogol Llysgennad Prydain ym Mharis ar gyfer busnesau Cymreig sydd eisoes yn gweithredu, neu sydd â diddordeb mewn gweithredu, ym marchnad Ffrainc.

Mae’n hollbwysig ein bod yn manteisio ar dwf mewn marchnadoedd tramor, a bydd Swyddfa Cymru’n gwneud popeth o fewn ei gallu i feithrin cyfleoedd newydd ar gyfer busnesau Cymreig.

Mae ein treftadaeth ddiwylliannol hefyd yn elfen allweddol o iechyd ein heconomïau lleol.

Gydag wythnos dwristiaeth gyntaf Cymru ar droed, mae Gweinidogion Swyddfa Cymru eisoes wedi cael cyfle i brofi rhai o’r atyniadau sydd gennym ar ein stepen drws.

A gydag Uwchgynhadledd NATO i’w chynnal yn ne Cymru fis Medi, rydym eisiau sicrhau bod twristiaeth yng Nghymru - yn ogystal ag economi ehangach Cymru - yn manteisio i’r eithaf ar y sylw rhyngwladol nas gwelwyd ei debyg o’r blaen a fydd yn cael ei hoelio ar ein gwlad.

Yn 2014, byddwn hefyd yn dod ynghyd fel cenedl i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr. Dros raglen bedair blynedd o ddigwyddiadau, byddwn yn anrhydeddu bywydau a dewrder pawb a wasanaethodd yn y rhyfel, drwy wasanaeth milwrol ac ar y ffrynt cartref. Heddiw, carwn anfon fy nghofion cynhesaf at bobl Cymru, boed hwy’n byw gartref neu’n gweithio i ffwrdd, ac yn enwedig at y rhai sy’n gwasanaethu mewn cyrchoedd milwrol ym mhedwar ban byd.

O Gemau’r Gymanwlad i ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas, bydd 2014 yn sicr o roi digon o gyfle i Gymru ddisgleirio ar y llwyfan byd-eang. Gadewch i ni ddefnyddio’r Dydd Gŵyl Ddewi hwn i edrych tua’r dyfodol gydag egni ac optimistiaeth newydd.

Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David Jones AS

Cyhoeddwyd ar 28 February 2014