Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Whitehall
Roedd dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn mynd rhagddynt yn Whitehall heddiw [dydd Mawrth 1 Mawrth] wrth i Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru…
Roedd dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn mynd rhagddynt yn Whitehall heddiw [dydd Mawrth 1 Mawrth] wrth i Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fynd a chennin pedr i Stryd Downing i’r Prif Weinidog a’i chyd-Weinidogion yn y cabinet fel rhan o ddathliadau Swyddfa Cymru i nodi ein Diwrnod Cenedlaethol.
Roedd baner Cymru yn cyhwfan uwchben Stryd Downing wrth i Mrs Gillan gyrraedd Rhif 10 ar gyfer y cyfarfod Cabinet wythnosol cyn mynd ymlaen i Dŷ’r Cyffredin i roi darlleniad yn y gwasanaeth capel Dydd Gŵyl Dewi blynyddol.
Roedd Tŷ Gwydyr yn llawn cennin pedr diolch i grŵp o bobl ifanc ddewr o Gymru a deithiodd i Whitehall o bob rhan o Dde Cymru fel rhan o drip Dydd Gŵyl Dewi blynyddol a drefnir gan yr elusen canser plant Gymreig LATCH. Cyflwynodd y plant duswau o gennin pedr i addurno cartref Swyddfa Cymru yn Llundain ar y diwrnod arbennig hwn.
Wedyn ymddangosodd Mrs Gillan gerbron y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y gwaith sy’n cael ei wneud yn Swyddfa Cymru.
Meddai: “Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle gwych i Gymry ym mhedwar ban byd ddathlu popeth sy’n wych yng Nghymru. Mae gennym dreftadaeth a diwylliant cyfoethog ac fel cenedl mae gennym lawer iawn i ymfalchio ynddo. Fel plentyn roeddem bob amser yn gwisgo’r wisg draddodiadol ac mae heddiw yn gyfle i nifer o blant wneud hynny. Mae’n braf iawn hefyd gweld ychydig o Gymru yn blodeuo yma yn Whitehall gyda’r cennin pedr hyfryd. Dymunaf Ddydd Gŵyl Dewi hapus i bawb.”