Datganiad i'r wasg

Mae busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cyflenwi twf economaidd i Gymru

David Jones yn ymweld â busnesau yn ne Cymru sy'n gwneud argraff fawr mewn marchnadoedd allforio byd-eang

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Steve Dalton OBE, Managing Director of Sony UK technology centre with Welsh Secretary David Jones

O gewri technoleg sy’n allforio cynnyrch i gwsmeriaid ar draws y byd i gwmni fferyllol sy’n tyfu’n gyflym, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn gweld yr wythnos yma sut mae cwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn gwneud camau breision mewn marchnadoedd allforio rhyngwladol.

Yr wythnos hon, bydd David Jones yn ymweld â Sony UK Technology Centre (UK TEC) a cwmni Biotec Service International ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weld y rôl bwysig sydd gan y busnesau hyn yn nhaith Cymru tuag at adferiad.

Wrth siarad cyn yr ymweliadau, dywedodd Mr Jones:

Dyma fy nhaith gyntaf i dde Cymru ers i Ddatganiad yr Hydref gael ei gyflwyno gan y Canghellor wythnos diwethaf, ac ers i Lywodraeth y DU lansio ei strategaeth Small Business: GREAT Ambition.

Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i greu’r amodau iawn er mwyn i gwmnïau allu buddsoddi a thyfu, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed sut mae’r mesurau a gyhoeddwyd gennym wedi’u derbyn gan y busnesau y byddaf yn ymweld â nhw yn ystod yr wythnos hon.

Yn ystod ei ymweliad â Sony UK Technology Centre (Dydd Iau 12 Rhagfyr), cynhyrchwr systemau camera a chamerâu darlledu a phroffesiynol, bydd Mr Jones yn cael ei groesawu a’i hebrwng o gwmpas gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Steve Dalton OBE a Rheolwr Cyffredinol y safle, Gerald Kelly. Bydd Mr Jones yn cael ei hebrwng o gwmpas y safle, a bydd yn cwrdd ag aelodau o weithlu Sony UK TEC sy’n gwneud eu marc ar sector cynhyrchu’r DU sy’n tyfu.

Yn ogystal â chynhyrchu systemau camera a chamerâu darlledu a phroffesiynol, mae’r safle’n cynnig atebion cynhyrchu trydydd parti. Yn 2012, llwyddodd Sony UK TEC i gael y gwaith o gynhyrchu’r Raspberry PI newydd gan China, gwaith cynhyrchu sy’n werth sawl miliwn o bunnoedd. Ers hynny, mae’r busnes wedi gweld llwyddiant y cyfrifiadur bach maint cerdyn credyd hwn yn mynd o nerth i nerth, ac mae nifer y cyfrifiaduron Pi sy’n cael eu cynhyrchu yn y ffatri ym Mhencoed yn cyrraedd bron i 12,000 o unedau y dydd. Oherwydd y cynnydd sydyn hwn, mae’r safle wedi cyflogi 40 unigolyn arall i ymdopi â lefel y galw, a chynhyrchwyd y miliynfed Pi ym mis Hydref 2013.

Mae safle Pencoed yn rhoi gwaith i 500 o bobl, gan gynnwys 350 o weithwyr uniongyrchol, a 150 o staff yn gweithio i 28 cwmni mewn canolfan deori busnesau ar y safle. Enwyd y ffatri hon yn ne Cymru fel y Gorau ym Mhrydain yng Ngwobrau Ffatrïoedd Gorau 2013 – y tro cyntaf i gwmni yng Nghymru ennill yr anrhydedd.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Jones:

Mae’r sector cynhyrchu yng Nghymru yn gyfrifol am oddeutu 10 y cant o’r holl swyddi yng Nghymru. 8 y cant yw’r ffigur ar gyfer y DU i gyd.

Mae Sony UK Technology Centre yn prysur bwysleisio ei enw da’n rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ym maes cynhyrchu. Mae’r gwobrau y mae wedi’u hennill, y contractau y mae’n eu hennill a’r cynnyrch y mae’n eu hallforio i gyd yn dangos ei fod yn gwmni sy’n rhagori, ac yn sicr yn brawf fod Cymru ar agor i fusnes.

Dywedodd Steve Dalton OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr, Sony UK Technology Centre:

Rydym yn croesawu ymweliad Ysgrifennydd Gwladol Cymru â’n safle yr wythnos hon. Mae 2013 wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i’r safle. Er enghraifft, mae ein contractau cynhyrchu trydydd parti wedi parhau i dyfu, rydym wedi ehangu ein portffolio cynnyrch Sony, ac rydym hefyd wedi ennill y wobr Ffatri Orau Prydain.

Mae ymweliad Mr Jones yn gyfle i ddangos y gweithgareddau busnes arloesol sy’n digwydd ar y safle. Bydd yn gweld drosto’i hun sut rydym yn rhagori yn eich galluoedd a thechnegau cynhyrchu. Mae hyn yn ein galluogi i gynhyrchu cynnyrch Sony a chynnyrch ar gyfer eraill sy’n ddibynadwy ac o safon uchel ar gyfer y farchnad fyd-eang.

Fel sefydliad rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi a datblygu rhagor ar yr hyn y mae’r safle’n ei gynnig, gan sicrhau cynaliadwyedd y safle i’r dyfodol a thrwy hynny helpu i ddatblygu a chyfrannu at yr economi leol ac economi’r DU.

Ar ôl ei ymweliad â Sony UK Tec, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â Biotec Services International Limited (Biotec) – cwmni cyflenwadau clinigol blaenllaw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fe’i sefydlwyd yn 1997, ac mae’r tîm wedi tyfu’n sylweddol ac wedi meithrin partneriaethau cryf â chwmnïau biotechnoleg a fferyllol o’r radd flaenaf ar draws y byd, gan gynnwys Ewrop, UDA, Canada, Israel a Japan.

Mae’r allforion sy’n cael eu gwerthu wedi cynyddu 517% dros y pum mlynedd diwethaf ac, yn 2009, derbyniodd Biotec y wobr nodedig, Gwobr y Frenhines am Fenter yn y categori Masnach Ryngwladol i gydnabod ei sylfaen cwsmeriaid byd-eang. Yn fwy diweddar enillodd Biotec y teitl Cyflawniad mewn Busnes Rhyngwladol yng ngwobrau Siambr Siambrau Masnach Prydain

Yn ystod ei ymweliad, bydd Mr Jones yn cwrdd â Keren Winmill, Prif Swyddog Gweithredol, a Fiona Withey, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Biotec, a fydd yn amlinellu cynlluniau presennol y cwmni a’i gynlluniau i’r dyfodol, ac yn ei dywys ar daith o gwmpas y safle.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Biotec, Keren Winmill:

Rydym wrth ein bodd yn cael croesawu’r Ysgrifennydd Gwladol i Biotec Services. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld twf sydyn, nid yn unig yn ein refeniw, ond hefyd yng ngalluoedd ein timau a’n darpariaeth fyd-eang. Mae gennym amcanion uchelgeisiol o hyd ar gyfer y tair blynedd nesaf ac rydym wedi ymrwymo i arwain y diwydiant gyda rheoli’r gadwyn gyflenwi y rheolir ei dymheredd ar gyfer treialon clinigol a therapïau celloedd.

Ychwanegodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cwmnïau rwyf yn ymweld â nhw heddiw yn ganolfannau rhagoriaeth ynddynt eu hunain ac yn gyflogwyr hollbwysig yng Nghymru. Mae eu llwyddiannau’n pwysleisio pwysigrwydd annog mwy o fewnfuddsoddi a chyfleoedd allforio ym Mhrydain.

Er bod y cwmnïau hyn yn llwyddiannus gartref a thramor, rydym am weld rhagor o fusnesau Cymru yn dilyn eu hesiampl. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd rhoi cymorth gweithredol i ddatblygu busnesau sydd â’r potensial i dyfu – rhai bach a mawr.

Mae lansio’r strategaeth Small Business: GREAT Ambition yn dangos bod y Llywodraeth hon yn gwrando ar gymuned fusnes Prydain ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i chwalu’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu, gwella’r amgylchedd busnes a’i gwneud yn haws iddynt gyflawni’u potensial.

Mae hyn i gyd yn adeiladu ar ein hymrwymiad i fusnesau yn Natganiad yr Hydref - buddsoddi £250m yn rhagor ym Manc Busnes Prydain, rhewi treth ar danwydd, ymestyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, a’i gwneud yn haws cyflogi staff o dan 21 oed.

Cyhoeddwyd ar 12 December 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 December 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.