Stori newyddion

Cyfreithwyr a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymuno â’r cynllun mynediad i ddefnyddwyr proffesiynol

Mae Cymdeithas Cyfreithwyr Llysoedd Troseddol Llundain, Cymdeithas y Cyfreithwyr Cyfraith Troseddol a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymuno â chynllun sy’n rhoi mynediad cyflym i adeiladau GLlTEM.

O heddiw (1 Chwefror) ymlaen, bydd cyfreithwyr yn gallu cofrestru ar y cynllun mynediad i ddefnyddwyr proffesiynol, sy’n caniatáu mynediad rhwyddach i’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd ar gyfer deiliaid cardiau adnabod sy’n dangos eu haelodaeth yn y cynllun.

Cymdeithas Cyfreithwyr Llysoedd Troseddol Llundain (LCCSA) a Chymdeithas y Cyfreithwyr Cyfraith Troseddol (CLSA) yw’r sefydliadau cyfreithiol diweddaraf i ymuno â’r cynllun, yn dilyn Cyngor y Bar, sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun ers iddo lansio ym mis Mai 2019. Mae gan GLlTEM hefyd bleser mawr cyhoeddi bod Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi ymuno fel aelod, gan ddangos bod y cynllun yn parhau i ddatblygu ac ymestyn i garfan ehangach o ddefnyddwyr llys proffesiynol.

Un nodwedd arwyddocaol yw, nid yw mynediad yr LCCSA a’r CLSA i’r porth cofrestru wedi’u gyfyngu i’w haelodaeth nhw yn unig. Gall bob cyfreithiwr gyda thystysgrif ymarfer gofrestru i ymuno â’r llwybr hon o heddiw ymlaen; datblygiad sydd wedi’i hwyluso a’i sbarduno gan fuddsoddiad a chefnogaeth gan Gymdeithas y Gyfraith.

Mae newyddion heddiw yn golygu gall bargyfreithwyr, cyfreithwyr a staff CPS elwa o gael mynediad i adeiladau GLlTEM heb orfod bod yn destun gwiriadau diogelwch manwl bob tro maen nhw’n ymweld; ond bydd rhaid iddynt gadarnhau eu hunaniaeth gyda dogfennau adnabod, gan fodloni ein polisi diogelwch cadarn sy’n seiliedig ar risg.

Mae hyn yn fuddiol i aelodau’r cynllun ac yn cynorthwyo â gweithrediad esmwyth y llysoedd a’r tribiwnlysoedd, gan helpu i leihau unrhyw oedi wrth ddod i mewn i’n hadeiladau. Bydd llwybrau cyflym ar wahân ar gyfer aelodau ar gael yn ystod cyfnodau prysur, lle bo’n bosibl. Bydd cod QR ar gerdyn aelodaeth bob aelod yn caniatáu mynediad heb gynnal gwiriadau diogelwch pellach, oni bai am weithdrefnau sgrinio a wneir ar hap.

Mae’r cynllun mynediad i ddefnyddwyr proffesiynol yn weithredol mewn dros 300 o safleoedd GLlTEM ar hyn o bryd.

Wrth groesawu’r newyddion heddiw, dywedodd Mark Troman, Llywydd yr LCCSA:

Mae cyfreithwyr yn chwarae rôl hanfodol yn y broses o weinyddu cyfiawnder yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd o ddydd i ddydd ledled Cymru a Lloegr. O heddiw ymlaen bydd eu statws fel rhai y gellir ymddiried ynddynt yn cael ei gydnabod a bydd hyn yn galluogi iddynt gael mynediad cyflymach a rhwyddach i adeiladau llys ynghyd â’u caniatáu i fwrw ymlaen gyda’u gwaith heb unrhyw oedi.

Mae’n bleser mawr gennyf ein bod nawr mewn sefyllfa i ymestyn gwahoddiad i gofrestru ar y cynllun nid yn unig i aelodau’r LCCSA, ond hefyd pob cyfreithiwr sy’n ymarfer yng Nghymru a Lloegr, a byddaf yn argymell yn gryf iddynt gofrestru ar ein gwefan.

Meddai Daniel Bonich, Cadeirydd y CLSA:

Mae’n bleser mawr gennym allu bodloni un o’r ceisiadau mwyaf rheolaidd a gawn gan ein haelodau. Mae’r cynllun hwn yn cydnabod y rôl hanfodol mae ein haelodau a’n cyd-gyfreithwyr yn ei chwarae yn y broses o weinyddu cyfiawnder yn briodol. Rydym yn hapus iawn bod eu statws fel swyddogion y llysoedd yn cael ei gydnabod a’u bod yn cael ‘statws fel rhai y gellir ymddiried ynddynt’, a fydd yn galluogi mynediad rhwyddach a chyflymach i adeiladau llys.

Rydym hefyd yn hapus iawn y byddwn yn gallu darparu’r cardiau hyn nid yn unig i’n haelodau ni ond i’r holl gyfreithwyr sy’n ymarfer yng Nghymru a Lloegr, gan ddiolch i gymorth Cymdeithas y Gyfraith, ac edrychwn ymlaen at gyflwyno’r cardiau hyn trwy ein gwefan.

Ychwanegodd David Greene, Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr:

Mae’r gwaith mae cyfreithwyr yn ei wneud yn tanategu cyfiawnder. Felly, rydym yn hapus iawn ein bod wedi gallu cytuno ar drefniant gyda sefydliadau partner fel bod ein haelodau yn cael cardiau adnabod a fydd yn rhoi mynediad cyflymach i adeiladau llys mewn ffordd sy’n helpu cynnal diogelwch pawb sy’n defnyddio’r llysoedd neu’n gweithio yno.

Meddai Mark Gray, Pennaeth Gweithrediadau a Materion Digidol a Masnachol, Gwasanaeth Erlyn y Goron:

Mae ein holl staff wedi pasio gwiriadau diogelwch cyn ymuno â ni, felly rydym yn croesawu’r gallu i roi mynediad cyflym i adeiladau llys i unigolion sy’n ymweld â’r llysoedd yn rheolaidd. Ynghyd â bod yn fuddiol i weithwyr proffesiynol CPS sy’n dod i’r llys i weithio, mae cynnwys mwy o weithwyr proffesiynol yn y cynllun yn rhyddhau’r swyddogion diogelwch i ganolbwyntio ar bobl eraill sy’n ymweld â’r llys. Hoffwn ddiolch i bawb yn CPS a GLlTEM sydd wedi gweithio i’w wneud yn haws i ni ddod i mewn i’r llysoedd i weithio, a hynny heb gyfaddawdu diogelwch pawb sy’n dod i’r llys.

Cafodd y cynllun mynediad i ddefnyddwyr proffesiynol ei gyflwyno ar y cyd gan GLlTEM a Chyngor y Bar mewn ymateb i bryderon a godwyd gan ymarferwyr y gyfraith, yn benodol, pryderon am giwiau i ddod i mewn i adeiladau GLlTEM a’r rhwystredigaeth a brofir pan mae eitemau personol yn cael eu hatafaelu am resymau diogelwch. Roedd rhaid cydbwyso hyn yn erbyn y gofyniad ar gyfer prosesau diogelwch llymach i atal arfau peryglus ac eitemau eraill a waherddir rhag cael eu dyfod i mewn i’r llys.

Mae llawer o adeiladau GLlTEM sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun, sydd â dros 5,000 o aelodau bellach, wedi llwyddo i’w gynnal trwy gydol y pandemig COVID-19. Mae bron pob adeilad oedd wedi rhoi stop i’r cynllun er mwyn bodloni gofynion ymbellhau cymdeithasol bellach wedi ailddechrau gweithredu’r cynllun. Fel rhan o ymateb GLlTEM i COVID, cafodd y broses o gyflwyno’r cynllun yn 26 o safleoedd newydd ei rhoi ar waith yn gynnar ac mae wedi bod yn weithredol yn y safleoedd hynny ers yr haf. Mae nifer y gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith sy’n ymuno â’r cynllun yn cynyddu bod wythnos ac mae dros 1,100 o gardiau mynediad yn cael eu sganio’n llwyddiannus yn ddyddiol.

Mae GLlTEM yn parhau i weithio gyda sefydliadau eraill i ychwanegu mwy o grwpiau i’r cynllun ac i wella mynediad at adeiladau ar gyfer carfan ehangach o ddefnyddwyr proffesiynol.

  • gall cyfreithwyr gofrestru ar y cynllun mynediad i ddefnyddwyr proffesiynol trwy wefannau’r LCCSA a’r CLSA
  • gall aelodau’r CPS gofrestru trwy fewnrwyd CPS
  • gall aelodau Cyngor y Bar gofrestru ar y cynllun trwy ddefnyddio porth ‘My Bar’ diogel Cyngor y Bar
Cyhoeddwyd ar 1 February 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 February 2021 + show all updates
  1. Update to LCCSA link

  2. First published.