Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Anogir unig fasnachwyr a landlordiaid sy’n ennill mwy na £30,000 i weithredu nawr

Anogir unig fasnachwyr a landlordiaid sy'n ennill dros £30,000 i baratoi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol.

  • Bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ymestyn i unig fasnachwyr a landlordiaid sy’n ennill mwy na £30,000 o 6 Ebrill 2027 ymlaen.
  • Mae gan gwsmeriaid sy’n cofrestru’n gynnar fwy o amser i ddewis meddalwedd sy’n cydweddu ac i baratoi yn eu hamser eu hunain.

Dim ond chwe mis sydd ar ôl cyn y bydd yn ofynnol i unig fasnachwyr a landlordiaid sydd â throsiant o fwy na £30,000 ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol (MTD) ar gyfer Treth Incwm.

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog y cwsmeriaid hynny i gofrestru ar GOV.UK a dechrau paratoi nawr. Dylent wirio a ydynt yn cyrraedd y trothwy, gan fod trosiant yn cynnwys incwm gros o hunangyflogaeth ac eiddo cyn tynnu unrhyw lwfansau treth neu dreuliau.

Mae cofrestru’n gynnar yn golygu y gall cwsmeriaid sicrhau bod eu manylion MTD yn gywir o’r cychwyn cyntaf, a chael amser i ddewis y feddalwedd sy’n gweithio orau iddynt. Gall asiantau hefyd gofrestru eu cleientiaid drwy GOV.UK.

O 6 Ebrill 2027 ymlaen, bydd angen i tua 1,077,000 yn rhagor o unig fasnachwyr a landlordiaid greu cofnodion digidol a defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i anfon diweddariadau chwarterol am eu hincwm a’u treuliau at CThEF ac i lenwi eu Ffurflen Dreth, yn ogystal â’r rhai sydd eisoes yn defnyddio’r gwasanaeth.

Nid Ffurflenni Treth ychwanegol yw’r diweddariadau chwarterol, ond crynodebau byr.

Drwy greu cofnodion digidol drwy gydol y flwyddyn, gall unig fasnachwyr a landlordiaid arbed oriau a dreuliwyd gynt yn casglu gwybodaeth adeg cyflwyno’r Ffurflen Dreth; mae hyn yn eu galluogi i ganolbwyntio mwy ar eu busnes ac osgoi’r rhuthr munud olaf bob mis Ionawr.

Meddai Craig Ogilvie, Cyfarwyddwr Troi Treth yn Ddigidol, CThEF:

Mae cannoedd o filoedd o unig fasnachwyr a landlordiaid eisoes yn defnyddio Troi Treth yn Ddigidol yn llwyddiannus, a nawr mae’n bryd i’r grŵp nesaf baratoi.

Mae cofrestru nawr yn golygu y gallwch baratoi ac ymgyfarwyddo â’r broses cyn iddi ddod yn orfodol fis Ebrill nesaf.

Mae hyn yn adeiladu ar y lansiad llwyddiannus o MTD ar gyfer Treth Incwm i unig fasnachwyr a landlordiaid sy’n ennill mwy na £50,000, sydd wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth ers mis Ebrill 2026. Eu carreg filltir nesaf yw’r ail ddiweddariad chwarterol sy’n ddyledus ar 7 Tachwedd.

Bydd y trothwy yn gostwng ymhellach i £20,000 o fis Ebrill 2028 ymlaen, gan ymestyn MTD ar gyfer Treth Incwm i grŵp hyd yn oed ehangach o unig fasnachwyr a landlordiaid.

Rhagor o wybodaeth

Daeth MTD ar gyfer Treth Incwm yn orfodol i unig fasnachwyr a landlordiaid sy’n ennill mwy na £50,000 o 6 Ebrill 2026 ymlaen.

I ymuno, mae’n rhaid i gwsmeriaid fod wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad ac wedi cyflwyno Ffurflen Dreth yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae angen anfon diweddariadau chwarterol drwy feddalwedd a gydnabyddir gan CThEF. Mae rhestr o feddalwedd sy’n cydweddu ar gael ar GOV.UK.

Mae esemptiadau penodol rhag defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gan gynnwys i’r rhai sydd wedi’u hesemptio’n ddigidol. Ewch i GOV.UK i gael manylion.

Gall cwsmeriaid ddysgu mwy am sut mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn gweithio drwy wylio fideo taith y cwsmer gan CThEF ar YouTube.

Mae’r amcangyfrif y bydd angen i tua 1,077,000 o unig fasnachwyr a landlordiaid ychwanegol ymuno â Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2027 ymlaen yn seiliedig ar ddadansoddiad CThEF o Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar gyfer 2024 i 2025.