Datganiad i'r wasg

‘Busnes bach arloesol yng Nghaerdydd yn achub bywydau ar draws y byd’, meddai Gweinidog Swyddfa Cymru

Heddiw, bu Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones yn ymweld a busnes bach yng Nghaerdydd sy’n cyffroi’r dyfroedd fel cyflenwr a gwneuthurwr cyfarpar…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, bu Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones yn ymweld a busnes bach yng Nghaerdydd sy’n cyffroi’r dyfroedd fel cyflenwr a gwneuthurwr cyfarpar amddiffyn arbenigol ar draws y byd.

Mae BCB International yn arweinydd sefydledig ym maes cyfarpar goroesi ac amddiffynnol gan ddod yn un o’r cyflenwyr mwyaf dibynadwy i filwyr sy’n gwasanaethu dros y mor. Mae’r cwmni wedi esblygu ers ei ddyddiau cynnar fel cyflenwr meddyginiaeth pesychu, i ddod yn allforiwr blaenllaw o’r technolegau diweddaraf a chynhyrchion slic eu dyluniad.

Cyfarfu David Jones ag Andrew Howell, Rheolwr Gyfarwyddwr BCB International, i drafod sut mae’r cwmni’n ehangu i farchnadoedd newydd ac yn datblygu cynhyrchion newydd.

Meddai Mr Jones: “Mae’n bwysig cydnabod y rol y mae busnesau bach fel BCB International yn ei chwarae, oherwydd nhw yw asgwrn cefn economi Cymru. Mae’n dangos bod ychydig bach o arloesi Cymreig yn mynd yn bell - i achub ac amddiffyn bywydau pobl sydd gannoedd a miloedd o filltiroedd i ffwrdd, mewn sefyllfaoedd heriol a gelyniaethus yn aml.

“Mae busnesau bach fel BCB International yn estyn allan at farchnadoedd rhyngwladol a, thrwy wneud hynny, yn rhoi Cymru ar y map. Fel a nodir yn y strategaeth ‘Prydain ar agor i fusnes’ gan Fasnach a Buddsoddi’r DU, rydym am weld mwy o gwmniau bach yn allforio dros y mor, er mwyn sbarduno twf a chreu swyddi cynaliadwy.

“Yng Nghymru, mae busnesau bach a chanolig yn cyflogi bron i 60% o’r holl weithwyr yn y sector preifat, felly mae’n galondid arbennig gweld BCB International yn cysylltu diwydiant ac academia i gadw i fyny a’r tueddiadau a’r galw presennol. Bydd y cysylltiadau hyn nid yn unig yn annog twf cynaliadwy hirdymor y cwmni, ond hefyd yn darparu’r cymorth a’r amddiffyniad gorau i’r unigolion dewr hynny sy’n gweithio mewn amryw o wahanol sefyllfaoedd yn y rheng flaen, mewn ymdrechion chwilio ac achub ac i helpu mewn trychineb.”

Meddai Andrew Howell, Rheolwr Gyfarwyddwr BCB International: “Ers dros hanner canrif, mae BCB International Ltd wedi bod ar flaen y gad wrth arloesi cynhyrchion newydd sbon i ddiogelu bywydau mewn eithafion o gwmpas y byd. P’un ai hanner ffordd i fyny mynydd, yng nghanol anialwch, yn ddwfn yn y jyngl neu ar for tymhestlog, mae ein cynhyrchion wedi helpu i achub miloedd lawer o fywydau.

“Hoffai bawb sy’n gysylltiedig a BCB International Ltd ddiolch i’r Gweinidog am ddod yma i weld drosto ei hun sut mae ein hymrwymiad i arloesi parhaus wedi ein helpu i fynd o nerth i nerth.”

Nodiadau

  1. Masnach a Buddsoddi’r DU (UKTI) yw’r adran o’r llywodraeth sy’n helpu cwmniau a leolir yn y DU i lwyddo yn yr economi fyd-eang. Mae UKTI yn cynnig arbenigedd a chysylltiadau drwy ei rwydwaith helaeth o arbenigwyr yn y DU, ac yn llys-genadaethau Prydain a swyddfeydd diplomyddol eraill ledled y byd. Mae’n rhoi’r offer sydd ei angen ar gwmniau i fod yn gystadleuol ar lwyfan y byd. Am fwy o wybodaeth am UKTI, ewch i www.ukti.gov.uk neu ffoniwch +44 (0)20 7215 8000.

  2. Ewch i wefan BCB International yn www.bcbin.com.

Cyhoeddwyd ar 17 October 2011