Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru yw’r safle yn y du a ffefrir ar gyfer enwebiad treftadaeth y byd 2019
Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru fydd yr enwebiad nesaf a ffefrir gan y DU ar gyfer statws safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru fydd yr enwebiad nesaf a ffefrir gan y DU ar gyfer statws safle Treftadaeth y Byd UNESCO, cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth, Michael Ellis heddiw.
Dywedir bod yr ardal – sy’n rhedeg drwy Sir Gwynedd – “wedi darparu toeau ar gyfer y byd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg” oherwydd bod llechi o’r chwareli yn cael eu hallforio o gwmpas y byd.
Cafodd y dirwedd ei hasesu ar gyfer Statws Treftadaeth y Byd gan banel o arbenigwyr yn y DU yr haf hwn a bydd yn cael ei chyflwyno yn ffurfiol i UNESCO y flwyddyn nesaf
Yna bydd yn cael ei hystyried gan y Cyngor Rhyngwladol o Safleoedd a Chofebion ac wedyn gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd yn 2021. Pe bai’n cael ei chymeradwyo, bydd y Dirwedd Lechi yn ymuno â safleoedd tebyg i Barc Cenedlaethol y Grand Canyon, y Great Barrier Reef ac Ardal y Llynnoedd fel Safle Dynodedig Treftadaeth y Byd.
Yna bydd yn cael ei hystyried gan y Cyngor Rhyngwladol o Safleoedd a Chofebion ac wedyn gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd yn 2021. Pe bai’n cael ei chymeradwyo, bydd y Dirwedd Lechi yn ymuno â safleoedd tebyg i Barc Cenedlaethol y Grand Canyon, y Great Barrier Reef ac Ardal y Llynnoedd fel Safle Dynodedig Treftadaeth y Byd.
Pe bai’n cael ei gofrestru, hwn fyddai pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru, ochr yn ochr â Thirwedd Diwydiannol Blaenafon, Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd a Dyfrbont Pontcysyllte.
Dywedodd Michael Ellis, Gweinidog dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth
Mae tirwedd llechi Gwynedd yn anferthol o bwysig. Mae’i chwareli a’i chloddfeydd anferth nid yn unig wedi llunio cefn gwlad y rhanbarth, ond hefyd adeiladau di-rif drwy’r DU a’r byd.
Mae hon yn garreg filltir hollbwysig ar y ffordd i ddod yn safle Treftadaeth Byd a’r gydnabyddiaeth fyd-eang a ddaw gyda hynny. Tra bod proses enwebu UNESCO yn drylwyr iawn, credaf y byddai’r dirwedd unigryw hon yn ychwanegiad teilwng at y rhestr.
Dywedodd Mims Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru:
Mae’n rhoi pleser mawr i mi weld bod y dirwedd lechi yng Ngwynedd, sy’n adnabyddus trwy’r byd, wedi cael ei dewis fel yr enwebiad a ffefrir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Nid yn unig bod anrhydedd fel hyn yn tynnu sylw at y prydferthwch aruthrol a’r hanes sydd gan Gymru i’w cynnig, ond mae hefyd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad a thwristiaeth. Byddai’r statws, sy’n cael ei gydnabod drwy’r byd, yn helpu i adfywio a datblygu economi’r ardaloedd llechi sydd wedi dylanwadu mor sylweddol ar gymunedau a threftadaeth Gogledd-orllewin Cymru.
Ar hyn o bryd, mae gan y DU 31 o Safleoedd Treftadaeth y Byd eraill a gall enwebu un safle pob blwyddyn galendr. Enwebwyd Arsyllfa Jodrell Bank ym mis Ionawr 2018, ac yn ddiweddar mae wedi derbyn ymweliad gwerthuso gan ymgynghorwyr arbenigol UNESCO. Bydd penderfyniad ynglŷn â chofrestru’r safle hwnnw yn digwydd yn ystod cyfarfod blynyddol y pwyllgor yr haf nesaf.
Bydd derbyniad Seneddol ar y Dirwedd Lechi, wedi’i fynychu gan y Gweinidog dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth yn digwydd y prynhawn yma.
Nodiadau ar gyfer y Golygydd
-
Mae enghraifft o’r dirwedd lechi wedi’i chynnwys isod.
-
Mae Canolfan Treftadaeth y Byd yn rheoli dros 1000 o safleoedd o gwmpas y byd ac mae gan y DU 31 o Safleoedd Treftadaeth y Byd.
-
Unwaith y mae enwebiad yn cael ei gyflwyno, mae ymgynghorwyr arbenigol UNESCO yn asesu’r safle ac yn gwneud argymhelliad i Bwyllgor Treftadaeth y Byd.
-
Mae’r newyddion, sy’n dod ar ôl i’r Dirwedd Lechi basio’r broses werthuso dechnegol drwyadl, yn arwydd o gefnogaeth y Llywodraeth mewn egwyddor ar gyfer enwebiad i’w gyflwyno yn ffurfiol yng nghanol 2019.
-
Yng Nghymru, roedd 1 miliwn o ymweliadau gan dwristiaid tramor yn ystod 2017, a gwariwyd £369 miliwn yn yr economi leol.
-
Yn ychwanegol, gwnaed 9 miliwn o deithiau dros nos i Gymru yn ystod 2017 gan breswylwyr o Brydain a gwariwyd £1.6 biliwn.