Datganiad i'r wasg

Syr Robert Buckland wedi'i ailbenodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Bydd yn parhau â'i rôl fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan y Prif Weinidog newydd.

Secretary of State for Wales Robert Buckland

Mae Syr Robert Buckland wedi cael ei ailbenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn dilyn ei benodiad mae Syr Robert wedi addo darparu llais cryf i Gymru wrth fwrdd y Cabinet.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Robert Buckland:

Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael fy ailbenodi i Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Gan weithio ochr yn ochr â’n Prif Weinidog newydd, a Llywodraeth Cymru hefyd, rwy’n edrych ymlaen at wella bywydau a chynyddu cyfleoedd i holl bobl Cymru.

Mae costau byw a biliau ynni cynyddol yn cael effaith sylweddol ar bob un person yn y wlad, ac mae’n flaenoriaeth i mi sicrhau bod teuluoedd, busnesau, ac unigolion ledled Cymru yn derbyn pob cymorth posibl i’w harwain drwy’r gaeaf heriol hwn.

Mae gan Gymru ran enfawr i’w chwarae yn ein hanghenion ynni hirdymor sydd â photensial ar gyfer cynlluniau ynni gwynt ar y môr, niwclear ac ynni adnewyddadwy. Mae rhain yn brosiectau sy’n creu swyddi a ffyniant, yn helpu i sicrhau ein dyfodol ynni a chyflawni ein targedau Net Sero.

Yn ogystal â mesurau penodol i fynd i’r afael â’r mater brys ogostau byw, byddwn yn parhau i gyflawni’r buddsoddiad sydd ei angen ar Gymru drwy Gronfeydd Ffyniant Bro a Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU.

Rwy’n Gymro balch ac yn Unoliaethwr balch ac eisiau gweld Cymru yn ffynnu fel rhan gref o’n Teyrnas Unedig lwyddiannus.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 7 September 2022