Stori newyddion

Simon Hart yn croesawu cefnogaeth y Loteri Genedlaethol i Bêl-droed Cymru

Bydd pedwardeg pedwar o glybiau yng Nghynghrair Cymru yn elwa o’r gefnogaeth

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi croesawu pecyn cymorth gwerth £750,000 ar gyfer pob un o’r 44 o glybiau Cynghrair Cymru yng Nghymru mewn partneriaeth â’r Loteri Genedlaethol.

Bydd y pecyn ariannol, a sefydlwyd gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru yr FAW a’r Loteri Genedlaethol a hwylusir gan Lywodraeth y DU yn gweld clybiau mewn tair is-adran yng Nghynghrair Cymru yn derbyn cymorth tra bod gemau yn parhau i gael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol y bydd y pecyn yn chwarae rhan allweddol i sicrhau y gall y clybiau barhau mewn bodolaeth a gweithredu yn ystod y cyfnod anodd yma.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae clybiau yng Nghynghrair Cymru yn chwarae rhan allweddol yn eu cymunedau lleol, ac fel llawer o rai eraill, maent wedi bod yn cael trafferth yn yr hinsawdd sydd ohoni. Rwy’n falch iawn y gall Lywodraeth y DU helpu i ddod â’r Loteri Genedlaethol a’r awdurdodau pêl-droed at ei gilydd i ddarparu ar gyfer y clybiau hyn a phêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru.

O Brestatyn i Ffynnon Taf, bydd y pecyn ariannol yn helpu i alluogi’r clybiau i barhau nes y gall y cefnogwyr ddychwelyd yn ddiogel.

Mae’r bartneriaeth yn dilyn menter debyg gan y Loteri Genedlaethol rhwng y Gymdeithas Pêl-droed Lloegr a’r Gynghrair Genedlaethol a hwyluswyd gan Lywodraeth y DU. Mae’r gwaith yn parhau ar bartneriaethau gyda Chymdeithasau Pêl-droed yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cyhoeddwyd ar 20 November 2020