Stori newyddion

Dadl Comisiwn Silk yn gyfle gwych i drafod ariannu Cymru yn y dyfodol, meddai Ysgrifennydd Cymru

Heddiw [27ain Hydref 2011] fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, groesawu cynlluniau i gynnal dadl undydd ynglŷn a Chomisiwn Silk, ddydd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [27ain Hydref 2011] fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, groesawu cynlluniau i gynnal dadl undydd ynglŷn a Chomisiwn Silk, ddydd Iau 3ydd Tachwedd, ar lawr Tŷ’r Cyffredin.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae hyn yn gam cadarnhaol yn hanes ariannol a chyfansoddiadol Cymru. Rydym wedi bodloni ein hymrwymiad dan gytundeb y Glymblaid i sefydlu comisiwn i ymchwilio i ddatganoli ac ariannu Cymru yn y dyfodol. Bydd y ddadl hon yn rhoi cyfle i ASau fynegi eu barn ynglŷn a sut gallai Llywodraeth Cymru ddod yn fwy atebol, yn dilyn pwerau deddfu newydd Llywodraeth Cymru, a’r modd y gallai pensaerniaeth datganoli ddatblygu yn y dyfodol. Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i glywed gan ASau o bob ochr i’r tŷ.”

Cyhoeddwyd ar 27 October 2011