Datganiad i'r wasg

Croesfan Hafren i’w galw’n Bont Tywysog Cymru

Ysgrifennydd Cymru yn cadarnhau’r ailenwi i nodi 60 mlynedd ers i’r Frenhines ‘enwi’ Tywysog Cymru

Second Severn Crossing

Second Severn Crossing

  • Daw’r cyhoeddiad yn y flwyddyn y bydd Llywodraeth y DU yn diddymu tollau croesfannau Hafren.
  • Bydd yr enw newydd yn cael ei nodi’n swyddogol mewn digwyddiad yn ne Cymru yn ddiweddarach eleni

Cyhoeddodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw (5 Ebrill) y bydd Ail Groesfan Hafren yn cael ei hailenwi’n Bont Tywysog Cymru mewn seremoni arbennig yn ddiweddarach eleni.

Bydd ailenwi Ail Bont Hafren, a agorwyd gan Dywysog Cymru yn 1996, yn nodi ei ben-blwydd yn 70 oed eleni, a bydd hefyd yn dathlu 60 mlynedd ers i’r Frenhines ei enwi’n Dywysog Cymru yn seremoni gloi Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958. Roedd y Tywysog yn naw mlwydd oed.

Yn cael eu hadnabod bellach fel Gemau’r Gymanwlad, cafodd cystadleuaeth eleni ei hagor yn swyddogol gan Dywysog Cymru ar ran y Frenhines ar yr Arfordir Aur, Awstralia yn gynharach heddiw.

Cafodd y cyhoeddiad ei gadarnhau gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns a gadarnhaodd hefyd y byddai’r ailenwi’n cael ei nodi mewn seremoni arbennig lle bydd Tywysog Cymru yn bresennol yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Rwyf wrth fy modd i gyhoeddi - gyda chytundeb y Prif Weinidog a’i Mawrhydi’r Frenhines - y bydd Ail Bont Hafren yn cael ei hailenwi’n Bont Tywysog Cymru.

Mae’r cyhoeddiad yn deyrnged addas i’w Uchelder Brenhinol yn y flwyddyn pryd y mae’n nodi 60 mlynedd fel Tywysog Cymru a degawdau o wasanaeth parhaus ac ymroddedig i’n cenedl.

Mae ailenwi un o dirnodau mwyaf eiconig Cymru yn ffordd addas o gydnabod yn ffurfiol ei ymrwymiad a’i ymroddiad i Gymru a’r DU fel Tywysog Cymru.

Edrychwn ymlaen at nodi’r achlysur mewn digwyddiad arbennig yn ddiweddarach eleni pan fydd Pont Tywysog Cymru newydd a’i chwaer-bont, yn cael eu gweld fel symbolau cadarnhaol o bartneriaeth economaidd a chymdeithasol gadarn rhwng de Cymru a de orllewin Lloegr a chryfder y Deyrnas Unedig.

Daw’r cyhoeddiad yn y flwyddyn pan fydd y tollau ar Bontydd Hafren yn cael eu diddymu gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

Mae tollau is ar bontydd Hafren eisoes wedi arbed dros £3 miliwn i yrwyr - gan helpu i hybu’r economi yng Nghymru a’r De Orllewin. Dyma ffordd wych i gychwyn cyfnod newydd i’r groesfan eiconig hon.

Pan gaiff y tollau eu diddymu erbyn diwedd eleni, bydd mwy o bobl yn gallu manteisio ar hyd yn oed mwy o gyfleoedd newydd ar gyfer busnes a swyddi ar y naill ochr i bont Tywysog Cymru a’r llall.

Bydd degau o filiynau o fodurwyr yn cael budd bob blwyddyn, gan arbed arian a byrhau hyd teithiau. Bydd gyrwyr ceir sy’n defnyddio’r pontydd bob dydd yn arbed lleiafswm o £115 y mis a bydd busnesau ar draws yr ardal yn manteisio ymhellach gan y bydd y tâl o £16 am lorïau yn dod i ben. Bydd economi de Cymru yn unig yn cael hwb o oddeutu £100 miliwn y flwyddyn.

Bydd gwneud hyn hefyd yn gyrru’r ysgogiad economaidd mwyaf i Gymru ers degawdau ac yn creu coridor twf economaidd naturiol yn cwmpasu Caerdydd, Casnewydd a Bryste, y tynnwyd sylw ato yn y Strategaeth Ddiwydiannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Cyhoeddwyd ar 5 April 2018