Datganiad i'r wasg

Saith stryd fawr yng Nghymru ar y rhestr fer yng ngwobrau Stryd Fawr Orau Prydain

Nod y gwobrau yw dathlu’r stryd fawr orau a mwyaf uchelgeisiol yn y DU, a bydd yr enillwyr yn cael hyd at £15,000.

Mae saith stryd fawr ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Stryd Fawr Orau Prydain 2018.

Mae’r gwobrau, a gaiff eu cynnal gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, a’u noddi gan Visa, yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau lleol ar y stryd fawr.

Maent yn tynnu sylw at enghreifftiau gwych o sut gall y stryd fawr ateb yr heriau sy’n codi pan fydd ymddygiad defnyddwyr a’r amgylchedd manwerthu yn newid.

Ar ôl proses ddethol drylwyr wedi’i harwain gan banel o feirniaid annibynnol, mae pedair stryd fawr yng Nghymru wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Pencampwr y Stryd Fawr. Nod y categori hwn yw dod o hyd i’r stryd fawr orau yn y DU, tra bo tair stryd fawr arall yng Nghymru wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori’r Seren Newydd, sy’n ceisio dod o hyd i’r stryd fawr fwyaf uchelgeisiol yn y DU.

Dyma’r strydoedd yng Nghymru sydd wedi cyrraedd y rhestr fer:

Gwobr Pencampwr y Stryd Fawr

  • Treffynnon, Sir y Fflint
  • Y Trallwng, Powys
  • Crucywel, Powys
  • Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Gwobr Seren Newydd

  • Aberteifi, Ceredigion
  • Arberth, Sir Benfro
  • Y Bont-faen, Morgannwg

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hyn yn newyddion gwych i’r saith stryd fawr yng Nghymru sydd wedi cael eu cydnabod am eu rhagoriaeth a’u huchelgais i ffynnu mewn cyfnod cynyddol gystadleuol.

Y stryd fawr yw anadl einioes ein cymdeithasau ledled Cymru. Mae’n rhoi cyfle i fusnesau bach ymsefydlu a llwyddo, ac i bobl ddod ynghyd a chefnogi eu cymunedau drwy siopa’n lleol.

Pob lwc i bob stryd fawr sydd wedi cael ei dewis yng Nghymru. Rydw i’n annog pawb i’w cefnogi ac i bleidleisio dros eu ffefryn.

Bydd y 38 stryd fawr ar y rhestr fer ledled y DU yn mynd benben i geisio ennill pleidlais y cyhoedd, sy’n cyfrif am 30 y cant o’r sgôr terfynol. Byddant yn cael y cyfle wedyn i greu argraff ar banel o feirniaid arbenigol cyn mynd ymlaen i ennill stryd fawr orau Prydain.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y bleidlais gyhoeddus, ewch i http://www.thegreatbritishhighstreet.co.uk i gael rhagor o wybodaeth. Bydd y strydoedd sy’n dod i’r brig yng nghategori Pencampwr y Stryd Fawr a’r Seren Newydd yn cael eu cyhoeddi ar 15 Tachwedd 2018 mewn seremoni wobrwyo yn Llundain.

Dywedodd Jake Berry AS, Gweinidog y Stryd Fawr:

Llongyfarchiadau i’r 38 stryd fawr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Stryd Fawr Orau Prydain eleni. Mae’r gwobrau’n dathlu’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud i adfywio, addasu ac arallgyfeirio’r stryd fawr ym Mhrydain ac mae safon y cystadleuwyr eleni wedi bod yn rhagorol.

Dros y chwe wythnos nesaf, byddant yn cael y cyfle i greu argraff ar banel o feirniaid arbenigol wrth iddynt fynd benben mewn pleidlais gyhoeddus i ennill teitl stryd fawr orau Prydain. Dyma gyfle ardderchog i chi ddangos eich bod yn cefnogi’r gwaith caled sy’n mynd rhagddo ar ein stryd fawr, felly cofiwch bleidleisio.

I gael rhagor o wybodaeth am delerau ac amodau Gwobrau Stryd Fawr Orau Prydain 2018 a manylion sut mae pleidleisio, ewch i: http://thegreatbritishhighstreet.co.uk

Cyhoeddwyd ar 17 September 2018